'Denu at rôl lywodraethol'
- Cyhoeddwyd
Mae cyn aelod seneddol a chynulliad Plaid Cymru wedi dweud wrth BBC Cymru y dylai'r blaid gael ei denu at rôl lywodraethol yn hytrach na bod yn wrthblaid.
Dywedodd Cynog Dafis y dylai'r blaid ystyried clymbleidio gyda Llafur os byddai'r llywodraeth yn barod i dderbyn hynny.
Ychwanegodd y dylai'r blaid "ganolbwyntio mwy ar y presennol ar hytrach nag ar faterion hirdymor fel annibyniaeth i Gymru".
Roedd yn siarad ddiwrnod ar ôl i'r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas gael chwip ei blaid yn ôl ac i'r blaid ddweud na fydd mwy o gamau yn ei erbyn.
Ychwanegodd Mr Dafis y dylai Plaid Cymru "eistedd i lawr" gyda Llafur a chytuno ar ffordd ymlaen i'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru.
Roedd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas wedi colli chwip ei blaid ddydd Mercher am fethu mynychu'r Cynulliad a phleidleisio mewn cynnig o ddiffyg hyder yn y Gweinidog Iechyd.
Colli'r bleidlais o ddiffyg hyder yn Lesley Griffith wnaeth y gwrthbleidiau o 29-28.
Roedd y gwrthbleidiau wedi cyflwyno'r cynnig oherwydd pryderon am annibyniaeth adroddiad ar y gwasanaeth iechyd a luniwyd gan academydd.
'Niweidiol'
Ddydd Gwener, dywedodd arweinydd y blaid, Leanne Wood: "Does dim dwywaith, mae digwyddiadau'r dyddiau diwethaf wedi bod yn niweidiol i Blaid Cymru a hefyd i'r ymgyrch i gael trafodaeth dryloyw a gonest - ac atebolrwydd - wrth i ni ystyried dyfodol ein Gwasanaeth Iechyd."
Roedd am i'r mater ddod i ben, meddai, ac nid oedd yn dderbyniol fod datganiadau'n cael eu gwneud i'r wasg cyn eu rhannu gyda thîm y blaid.
"Er mod i'n anghytuno â fe, rydw i'n parchu'r ffaith nad yw Dafydd Elis-Thomas yn rhannu safbwynt y grŵp - a safbwynt y grŵp ers tro - ar ddiogelu gwasanaethau iechyd craidd ar lefel gymunedol a'r angen am atebolrwydd gweinidogol am y penderfyniadau sy'n cael eu gwneud."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd20 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd19 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd18 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd18 Gorffennaf 2012