Llundain 2012: Caerdydd yn barod at y Gemau Olympaidd
- Cyhoeddwyd

Caerdydd fydd yn cynnal digwyddiad cyntaf Gemau Olympaidd 2012 - gêm bêl-droed Team GB yn erbyn Seland Newydd am 4pm ar ddydd Mercher.

Mae baneri Olympaidd ar hyd Heol Fawr a Heol Eglwys Fair yn y ddinas.

Mae baneri i'w gweld hefyd ar hyd nifer o ffyrdd eraill Caerdydd.

Mae logos y Gemau i'w gweld tu ôl i gerflun o Syr Tasker Watkins o flaen Stadiwm y Mileniwm.

Mae tîm arbenigol yr heddlu yn archwilio glannau'r afon Taf gyferbyn â Stadiwm y Mileniwm.

Mae heddlu ychwanegol ar y strydoedd yn rhoi cymorth a chyngor i ymwelwyr.

Ar y sgrîn fawr tu allan i Neuadd Dewi Sant mae modd gwylio'r paratoadau at y Gemau yn ogystal â'r Gemau Olympaidd eu hunain.

Mae hysbyseb anferth gyda llun y deifiwr Tom Daley ar wal gyfan siop John Lewis yng nghanol y ddinas.

Mae staff diogelwch i'w gweld tu allan i westai'r ddinas lle mae cystadleuwyr yn aros.

Mae'r cylchoedd Olympaidd tu allan i Neuadd y Ddinas wedi dod yn atyniad i dwristiaid.

Mae chwaraewr pêl-droed wedi ei wneud o flodau i'w weld ger Castell Caerdydd.

Bydd digwyddiadau Olympaidd yn y ddinas o Orffennaf 25 hyd at Awst 10.