Ffôn academydd o Gymru wedi ei hacio?
- Cyhoeddwyd
Gallai ffôn academydd o Gaerdydd, a oroesodd ymosodiadau terfysgol Llundain yn 2007, fod wedi cael ei hacio gan wyth cyn newyddiadurwr News of the World.
Mae enw'r Athro John Tulloch, oedd yn arfer gweithio ym Mhrifysgol Caerdydd, yn ymddangos yn un o'r cyhuddiadau yn erbyn cyn olygydd newyddion y papur, Ian Edmondson, a'r ditectif preifat, Glenn Mulcaire.
Mae cyhuddiad 17 o 19, yn ymwneud â chynllwynio i wrando ar negeseuon ffôn heb awdurdod, yn cyfeirio at yr athro.
Honnir fod Ian Edmondson a Glen Mulcaire - rhwng Ebrill 25 a Mai 15, 2006 - wedi cynllwynio "gyda phobl anhysbys i wrando ar negeseuon ffôn yr Athro John Tulloch a phobl yn gysylltiedig â'r Athro John Tulloch."
Bagiau
Roedd yr athro wedi dweud wrth gwest i'r 52 o bobl fu farw ei fod ar fin camu oddi ar drên tanddaearol pan ffrwydrodd dyfais.
Roedd yn credu fod ei fagiau i raddau wedi ei helpu i oroesi.
Mae wyth - gan gynnwys y ddau gyn olygydd, Rebekah Brooks ac Andy Coulson - yn wynebu cyfanswm o 19 o gyhuddiadau'n ymwneud â hacio ffonau, yn ôl Gwasanaeth Erlyn y Goron.
Mae disgwyl i'r wyth fynd gerbron Llys Ynadon Westminster ar Awst 16.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Tachwedd 2011
- Cyhoeddwyd28 Tachwedd 2011
- Cyhoeddwyd25 Tachwedd 2011