Cynhadledd Hanes Cymru yn croesi Môr yr Iwerydd

  • Cyhoeddwyd
Prifysgol Bangor
Disgrifiad o’r llun,

Dim ond unwaith o'r blaen y mae'r gynhadledd wedi dod i Gymru

Bydd cynhadledd sy'n ymdrin â'r cysylltiadau diwylliannol rhwng Cymru ac America yn cael ei gynnal y tu allan i Ogledd America am yr ail waith yn unig.

Cynhelir cynhadledd bob yn ail flwyddyn Hanes a Diwylliant Cymru Cymdeithas Gogledd America (NAASWCH) ym Mhrifysgol Bangor.

Yn draddodiadol cynhelir y gynhadledd yn yr Unol Daleithiau a Chanada rhwng Gorffennaf 26 a 28.

Unwaith yn unig y bu yng Nghymru.

Prif themâu'r gynhadledd eleni fydd y cysylltiadau diwylliannol sydd wedi eu hen sefydlu rhwng Cymru ac America, yn cynnwys profiad cymunedau Cymraeg yng Ngogledd America.

'Cynhadledd ragorol'

Trefnir y gynhadledd gan yr Athro Tony Brown o Ysgol Saesneg Prifysgol Bangor a Dr Andrew Edwards o Ysgol Hanes, Hanes Cymru ac Archaeoleg y Brifysgol.

"Mae'n brawf o rôl arweiniol Prifysgol Bangor wrth ddatblygu ysgolheictod Cymraeg o ansawdd ryngwladol bod cynhadledd NAASWCH yn cael ei chynnal yma, gyda nifer o ffigurau amlwg yn eu meysydd yn cymryd rhan," meddai'r Athro Tony Brown.

"Rydym yn edrych ymlaen at yr hyn a ddylai fod yn gynhadledd ragorol ac ysgogol."

Mae'r gynhadledd wedi denu dros 80 o ysgolheigion o bob ochr i'r Iwerydd i drafod ystod eang o bynciau yn amrywio o farddoniaeth yr oesoedd canol i'r ffordd y caiff Cymru ei chyflwyno mewn ffilmiau a theledu cyfoes, o Daniel Defoe a Samuel Johnson yn ystod y 18fed Ganrif yng Nghymru i lenyddiaeth gan ferched yng Nghymru o'r 18fed Ganrif i'r presennol.

Hefyd bydd darlleniadau o farddoniaeth yn Gymraeg a Saesneg gan awduron arobryn fel Angharad Price ac Ian Gregson.

"Rydym yn falch iawn gyda'r ymateb i'r gynhadledd o bob ochr i'r Iwerydd, yn arbennig yn ystod y cyfnod economaidd anodd hwn," meddai Dr Andrew Edwards.

"Roeddem eisiau cynhadledd a oedd yn arddangos y cyfoeth o waith academaidd sy'n canolbwyntio ar Gymru, ac o ystyried ansawdd y papurau, credaf ein bod yn bendant wedi cyflawni hynny."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol