Team GB 1-0 Seland Newydd (Merched)
- Cyhoeddwyd

Y funud fawr: Stephanie Houghton yn dathlu
Mae Tîm Merched Prydain wedi trechu Seland Newydd yn Stadiwm y Mileniwm.
Y sgôr oedd 1-0.
Dyma oedd digwyddiad cyntaf Gemau Olympaidd Llundain 2012.
Roedd y tîm cartre' wedi bygwth trwy gydol y gêm a llwyddodd Stephanie Houghton i rwydo 15 munud wedi'r egwyl.
Dywedodd gohebydd chwaraeon BBC Cymru, Bethan Clement: "Roedd hwn yn ddiweddglo perffaith ... roedd cymaint o gefnogaeth yn y stadiwm.
'Diweddglo'
"Roedd tua 40,000 yn gwylio, y nifer fwya' erioed i wylio gêm bêl-droed i fenywod."
Hwn oedd y tro cynta' i Dîm Merched Prydain fod yn rhan o'r gystadleuaeth Olympaidd.
Ond nid oedd neb o Gymru yn y tîm.
Yn y gêm nesa' yn y stadiwm trechodd Brasil Cameroon 5-0.