Gemau: Awr i gerdded hanner can llath

  • Cyhoeddwyd
Gareth EvansFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Llwyddodd Gareth Evans i godi ei gyfanswm mwyaf erioed ddydd Mawrth

Mae'n annhebyg iawn y bydd Gareth Evans yn cystadlu am fedal yn y Gemau Olympaidd yn Llundain, ond fe gafodd brofiad gwych o awyrgylch y Gemau ddydd Mawrth.

Llwyddodd y codwr pwysau 26 oed o Gaergybi i dorri ei record bersonol yn y categori -69kg yn rhagbrofion fore Mawrth, gan godi cyfanswm o 288kg. Ei orau cyn hynny oedd 277kg.

Ond yn yr arena gystadlu fe gafodd gefnogaeth brwd a swnllyd gan gefnogwyr Prydain, ac fe gymrodd hi dros awr iddo gerdded 50m i allanfa'r arena ar ôl cystadlu.

Bu'n arwyddo llofnodion a chael tynnu ei lun gyda chriw o blant a fu'n aros eu tro i gael eu gweld gydag Evans, a hawdd byddai i rywun a welodd y cyfan ddychmygu ei fod wedi ennill y fedal aur.

Mae Evans yn gefnogwr brwd o dîm pêl-droed Wrecsam, ac yn hoff o dreulio amser gyda'i ferch fach bedair oed, Lexie, ac fe dalodd deyrnged i'r dorf yn Arena Excel.

"Fe gymrodd hi bron awr i ddod allan - roedd y dorf yn gwbl wych ac fe lwyddais i'w diddanu am gyfnod," meddai.

"Os yw hyn wedi ysbrydoli un bachgen bach i fod yn godwr pwysau yna mae fy ngwaith i wedi ei wneud, oherwydd mae'r Gemau Olympaidd wedi fy ysbrydoli i."

Gorffennodd Evans yn wythfed yn y grŵp cyntaf o godwyr pwysau fore Mawrth, ond gyda'r codwyr gorau eto i gystadlu nos Fawrth, prin iawn yw gobeithion Evans o gyrraedd y rownd derfynol am fedalau.