Sylw i fardd Canol Oesoedd

  • Cyhoeddwyd
Dr Cynfael Lake
Disgrifiad o’r llun,

Y Dr Cynfael Lake

Mae'r Dr Cynfael Lake o Brifysgol Abertawe wedi ennill cymrodoriaeth sy'n werth £89,000 oddi wrth y Cyngor Prydeinig i astudio gwaith bardd o'r 15fed ganrif.

Hywel Dafi yw'r unig un o brif feirdd y ganrif honno nad oes neb wedi golygu ei waith.

Bydd y darlithydd yn Academi Hywel Teifi yn cael blwyddyn yn rhydd o'i waith i baratoi'r gwaith.

Mae dros 100 o gerddi Hywel Dafi wedi'u diogelu mewn llawysgrifau, llawer ohonyn nhw yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth.

Baledi

Mae'r cerddi yn bennaf yn talu teyrnged i deuluoedd bonheddig yn Sir Frycheiniog yr oedd y bardd yn rhannu llinach gyffredin â nhw.

Mae Dr Lake yn arbenigwr ar waith Huw Jones o Langwm, un o awduron baledi ac anterliwtiau mwyaf adnabyddus y ddeunawfed ganrif, ac wedi cyhoeddi astudiaeth o'i waith yn y gyfres Llên y Llenor.

Cyhoeddwyd detholiad o 50 o'r baledi yn 2010.

Er nad yw'n frodor o Abertawe, treuliodd Dr Lake ei arddegau yn y ddinas a bu'n ddisgybl yn Ysgol Gyfun Penlan.

Cafodd ei radd ym Mhrifysgol Abertawe a dychwelodd ym 1996 ar ôl gweithio gydag Eisteddfod Genedlaethol Cymru a Phrifysgol Aberystwyth.

Dywedodd Cyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau ym Mhrifysgol Abertawe, yr Athro Chris Williams: "Rhaid llongyfarch Dr Cynfael Lake ar ennill y gymrodoriaeth hynod gystadleuol hon."