Llifogydd Ceredigion: Apêl yn cyrraedd £100,000
- Cyhoeddwyd
Mae Cronfa Apêl Arweinydd Cyngor Ceredigion ar gyfer dioddefwyr llifogydd gogledd Ceredigion wedi cyrraedd cyfanswm o bron £105,000.
Derbyniodd y Cynghorydd Ellen ap Gwynn y rhoddion diweddaraf ddydd Iau ac yn ôl y cyngor, bydd y sieciau cynta'n cael dosbarthu'r wythnos nesaf.
Ym mis Mehefin effeithiodd y llifogydd ar fwy na 1,000 o bobl, gan achosi difrod sylweddol i dai ac eiddo.
Yn ôl adroddiad Cyngor Ceredigion, yr achos glaw trwm yn syrthio ar dir soeglyd am gyfnod hir.
Roedd Aberystwyth a phentrefi Talybont, Dol-y-Bont, Capel Bangor, Llanbadarn Fawr a Llandre ymysg yr ardaloedd ddioddefodd oherwydd y glaw trwm Mehefin 8 a 9.
Clywodd rhai o'r teuluoedd na fydden nhw'n gallu dychwelyd i'w tai am hyd at chwe mis.
Dywedodd arweinydd y cyngor: "Mae haelioni pobl Ceredigion, ynghyd â chyfraniadau gan unigolion a mudiadau o du allan i'r ardal, wedi bod yn rhyfeddol.
'Yn ddiflino'
"Mae'r cyngor wedi derbyn sieciau am symiau rhwng £3 a £24,000 ar gyfer y Gronfa Apêl ac mae pobl yn dal i roi rhagor o arian.
"Rwy' wedi bod yn gweithio'n agos gyda'r panel ymgynghorwyr benodwyd wrth lunio canllawiau ar gyfer dosbarthu'r arian i'r bobl sydd ei angen ac mae help y panel wedi bod yn hollbwysig.
"Mae swyddogion y cyngor wedi bod yn gweithio'n ddiflino yn yr ardaloedd dan sylw er mwyn sicrhau ein bod yn gwybod am bawb sydd wedi colli eiddo.
"... a byddwn ni'n yn dal i weithio gydag unigolion a chymunedau am gryn dipyn o amser eto."
Cafodd adroddiad yr ymchwiliad y cyngor sir i'r llifogydd ei gyflwyno i gabinet yr awdurdod lleol ddydd Mawrth.
Dywedodd yr adroddiad y gallai cymunedau mewn perygl o lifogydd yng Ngheredigion orfod cyfrannu tuag at amddiffynfeydd rhag llifogydd yn y dyfodol.
Bydd y Gronfa Apêl ar agor tan Fehefin 8, 2013.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd21 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd9 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd8 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd10 Mehefin 2012
- Cyhoeddwyd10 Mehefin 2012