Medal aur i Geraint Thomas

  • Cyhoeddwyd
GB Team pursuitFfynhonnell y llun, BBC grab
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Geraint Thomas yn aelod o'r pedwarawd llwyddiannus

Roedd Geraint Thomas yn aelod o dîm seiclo Prydain enillodd fedal aur yn y ras ymlid i dimau yn y Gemau Olympaidd.

Thomas yw'r Cymro cyntaf i ennill medal aur yn y Gemau yn Llundain 2012.

Yn y rownd rhagbrofol ddydd Iau, fe dorrodd y tîm eu record byd eu hunain mewn amser o 3mun 52.499eiliad, ac yn y rownd gynderfynol roedd eu hamser o fewn chwarter eiliad i hynny.

Y pedwar oedd Geraint Thomas, Ed Clancy, Steven Burke a Peter Kennaugh, ac roedd y disgwyliadau yn uchel y byddai'r pedwar yn cipio'r fedal aur yn y rownd derfynol yn erbyn Awstralia.

Ac er i'r Awstraliaid frwydro'n galed, doedd dim siom i'r Prydeinwyr wrth iddyn nhw gwblhau'r cwrs o 4,000m mewn amser o 3 munud 51.659 - record byd arall.

Dim ond tri o'r Awstraliaid orffennodd y ras wedi i un o'r pedwar gael anffawd dros gilomedr o'r diwedd.

Eisoes mae'n bencampwr Olympaidd, gan ennill y fedal aur yn ras ymlid tîm y Gemau yn Beijing yn 2008, gan dorri'r record byd ddwywaith yn ystod y gystadleuaeth honno hefyd.

Ymateb

Roedd y Prif Weinidog, Carwyn Jones, ymhlith y cyntaf i dalu teyrnged i Thomas gan ddweud:

"Llongyfarchiadau mawr i Geraint Thomas ar ennill medal aur gyntaf Cymru yn Llundain 2012.

"Roedd yn berfformiad anhygoel i dorri'r record gan Geraint ac aelodau eraill y tîm. Mae Cymru mor falch ag y gallem fod."

Dywedodd y Gweinidog Chwaraeon, Huw Lewis: "Llongyfarchiadau mawr iawn i Geraint ar berfformiad gwych.

"Mae ennill un fedal aur Olympaidd yn gamp ryfeddol, ond i Geraint ennill dwy mewn dau Gemau yn destun breuddwydion ac yn ganlyniad blynyddoedd lawer o waith caled ac aberth."

Stamp

Daeth cadarnhad gan y Post Brenhinol y bydd stamp newydd yn cael ei argraffu dros nos gyda llun Geraint Thomas a gweddill y tîm ras ymlid arno.

Mae'r rhan o gynllun y Post Brenhinol i argraffu stampiau gyda llun o bob enillydd medal aur i Brydain arnynt.

Yn ogystal, bydd un blwch postio yng Nghaerdydd - a chartref pob enillydd arall - yn cael ei baentio'n aur ddydd Sadwrn. Yr un gafodd ei ddewis ar gyfer Geraint Thomas yw'r un y tu allan i Gastell Caerdydd.