Y seithfed dwrnod: Manylion y Cymry yn y Gemau Olympaidd
- Cyhoeddwyd
Dydd Gwener mae 'na nifer o Gymry yn cymryd rhan yn y Gemau Olympaidd.
Mae BBC Cymru yn dod â'r newyddion diweddara i chi o'r campau.
SEICLO:
Mae Geraint Thomas wedi ennill medal aur gyntaf Cymru yn y Gemau Olympaidd yn 2012 drwy fod yn aelod o dîm Prydain yn y ras ymlid i dimau yn y felodrôm ddydd Gwener.
Cwblhaodd tîm Prydain y cwrs 4000m mewn 3 munud 51.659 yn y rownd derfynol yn erbyn Awstralia - record byd newydd, a hynny dros dri chwarter eiliad yn gynt na'r record blaenorol.
Yn y diwedd, roedd y fuddugoliaeth yn hawdd gan bod Awstralia wedi colli un o'r pedwar seiclwr yn ystod y ras gan ychwanegu at y baich ar y tri arall.
Dyma'r ail dro i dîm Prydain dorri record byd yn ystod y gystadleuaeth, gan iddyn nhw wneud hynny yn y rownd rhagbrofol yn ogystal.
BOCSIO:
Mae Fred Evans wedi cyrraedd wyth olaf y bocsio pwysau welter 69cg. Roedd Evans yn fuddugol yn erbyn Egidijus Kavaliauskas o Lithwania. Roedd wedi llwyddo i ennill ei rownd gyntaf yn erbyn Ilyas Abbadi o Algeria.
Enillodd Evans gyda mantais ar bwyntiau o 11-7 wedi'r tair rownd yn Arena Excel, ond roedd hi'n ornest agos tan y rownd olaf. Wedi dwy rownd o'r ornest oredd hi'n 5-5, ond fe gafodd Evans rownd olaf ardderchog i sicrhau'r fuddugoliaeth.
Yn ymuno ag ef yn rownd yr wyth olaf bydd Andrew Selby - llwyddodd y bocsiwr pwysau plu (52cg) i guro Ilyas Suleimenov o Kazakhstan yn rownd yr 16 olaf ddydd Gwener. Doedd dim rhaid iddo ymladd yn y rownd gyntaf.
Roedd hi'n ornest galetach na'r disgwyl i'r Cymro, sy'n un o brif obeithion y tîm bocsio am fedal, ond llwyddodd i ennill ar bwyntiau ar ddiwedd y tair rownd o 19-15.
NOFIO:
Mae un o nofwyr amlycaf Cymru, David Davies o'r Barri, wedi methu â chyrraedd rownd derfynol y ras 1500 metr ar ôl bod yn seithfed yn ei ras ragbrofol mewn amser o 15 munud 14.77 eiliad.
Enillodd Davies fedal efydd yng Ngemau Olympaidd Athen yn 2004 yn y ras 1500 metr ac er iddo gael ei siomi drwy orffen yn chweched yn yr un ras yn Beijing bedair blynedd yn ddiweddarach roedd wedi gwneud yn iawn am hynny drwy ennill medal arian yn y ras nofio dŵr agored.
Bydd Jemma Lowe yn cystadlu yn ei hail rownd derfynol o'r gemau fel aelod o Dîm Merched Prydain yn y ras gyfnewid dulliau cymysg dros 100 metr am 8.07pm nos Sadwrn.
Cyrhaeddodd Prydain y rownd derfynol mewn 3 munud 59.37 eiliad - y chweched cyflymaf o'r wyth gwlad fydd yn cystadlu yn y rownd derfynol.
Gorffennodd Lowe yn chweched yn rownd derfynol 200m dull pili pala yn y Ganolfan Campau Dŵr nos Fercher mewn 2 funud 06:80 eiliad yn dilyn ymdrech lew yn ystod 150 metr gynta'r ras.
ATHLETAU:
Roedd dau Gymro yn cystadlu yn ras y 400m dros y clwydi yn Y Stadiwm Olympaidd. Mae Dai Greene a Rhys Williams wedi cyrraedd y rownd gyn-derfynol fydd yn cael ei chynnal ddydd Sadwrn.
Enillodd Greene ei ras mewn 48.98 eiliad ac fe gyrhaeddodd Williams y rownd gynderfynol ar ôl gorffen yn bumed yn ei ras ragbrawf mewn 49.17 eiliad.
Mae Greene yn un o'r ffefrynnau i ennill y ras er ei fod yn wynebu her Javier Culson o Puerto Rico.
HWYLIO:
Mae Hannah Mills o Gaerdydd a Saskia Clark yn gyntaf ar ddiwedd y diwrnod cyntaf o rasio yng nghystadleuaeth hwylio 470 i ferched yn Weymouth.
Daeth Mills a Clark yn chweched yn y ras gyntaf ond enillon nhw'r ail ras i sicrhau y byddan nhw'n dechrau'r ail ddiwrnod o rasio ar y brig.
Enillodd Mills bencampwriaeth y byd gyda Saskia Clark ddeufis cyn y gemau yn Llundain - y menywod cyntaf o Brydain i ennill medal aur yn y dosbarth 470.
Bydd y ddwy'n cystadlu mewn 10 ras dros y chwe diwrnod nesaf, gan obeithio cyrraedd y rownd derfynol fydd yn cael ei chynnal ddydd Gwener, Awst 10.
PÊL-DROED:
Yn Stadiwm y Mileniwm llwyddodd merched Japan i gyrraedd y rownd gynderfynol gyda buddugoliaeth o 2-0 yn erbyn Brasil.
Yuki Ogimi a Shinobu Ohno sgoriodd i bencampwyr y byd, a fydd yn cwrdd â Ffrainc yn y rownd nesaf.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Awst 2012
- Cyhoeddwyd31 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd1 Awst 2012
- Cyhoeddwyd31 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd30 Gorffennaf 2012