Tynnu lifft diffygiol o ysbyty
- Cyhoeddwyd
Mae lifft diffygiol a gostiodd £40,000 wedi cael ei dynnu o ysbyty yng Ngwynedd - bu'r lifft ond yn gweithio am ychydig ddyddiau ers tair blynedd.
Mae ymwelwyr i Ysbyty Alltwen yn Nhremadog yn gorfod defnyddio'r grisiau i fynd o'r maes parcio uchaf i fynedfa'r ysbyty.
Cafodd y lifft ei osod pan agorodd Ysbyty Alltwen yn 2009 er mwyn hwyluso'r daith o'r maes parcio.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn dweud eu bod yn parhau i chwilio am ateb arall i'r broblem.
Dywedodd llefarydd ar ran y bwrdd: "Mae mwy o leoedd parcio wedi cael eu creu yn agos at y brif fynedfa, ond rydym hefyd yn chwilio am ateb arall."
Ychwanegodd fod y lifft ond wedi gweithio am bedwar diwrnod llawn ac 20 hanner diwrnod ers iddo gael ei osod yn yr ysbyty.
Yn 2011, dywedodd y Bwrdd Iechyd bod materion cyfreithiol gyda gwneuthurwyr y lifft wrthi'n cael eu datrys.
'Annheg'
Dywedodd y Parchedig Dewi Morris, cyn gaplan yn yr ysbyty ac aelod o Gymdeithas Cyfeillion Ysbyty Alltwen, fod y sefyllfa yn annheg "i ymwelwyr a staff".
"Rhaid i'r staff ddringo'r grisiau ymhob tywydd ac ar bob awr o'r dydd," meddai.
"Nid yw hynny'n sefyllfa gyffyrddus, oherwydd dydych chi byth yn gwybod pwy sydd o gwmpas y dyddiau hyn."
Ychwanegodd Mr Morris ei fod yn credu y dylai'r awdurdod iechyd fod wedi creu gwell ddarpariaeth am barcio wrth godi a chynllunio'r adeilad, ond mae'n croesawu creu mwy o leoedd parcio ar yr un lefel â'r fynedfa.
Ond ychwanegodd: "Pam bod y Bwrdd Iechyd wedi gadael i hyn barhau am gyhyd? Fedra' i ddim deall yr holl oedi gyda dim byd yn cael ei wneud."
Straeon perthnasol
- Adran y stori
- Cyhoeddwyd18 Mai 2011