Pennaeth BBC Cymru yn galw am arloesi digidol
- Cyhoeddwyd
Mae angen cyfnod newydd o arloesi a chyd-weithio i sicrhau y bydd lle i'r Gymraeg yn y dyfodol digidol, medd Cyfarwyddwr BBC Cymru Wales, Rhodri Talfan Davies.
Mewn araith yn yr Eisteddfod ddydd Mawrth mae'n amlinellu'r "her enfawr" sy'n wynebu'r iaith wrth geisio dod o hyd i'w lle ar ddyfeisiau digidol newydd fel ffonau clyfar, teclynnau tabled a theledu sy'n cysylltu â'r rhyngrwyd.
Mae disgwyl iddo ddatgelu bod ymchwil y BBC yn awgrymu pa mor gyflym y mae'r "chwyldro digidol" yn digwydd yng Nghymru.
Mae'n debyg bod yr ymchwil yn awgrymu bod gan dros hanner oedolion Cymru gyfrif Facebook a bod 45% yn berchen ar ffonau clyfar sy'n gallu cysylltu â'r rhyngrwyd.
Dim ond 2%, fodd bynnag, sy'n dweud eu bod yn defnyddio'r cyfrwng cymdeithasol Twitter yn rheolaidd.
Adolygu
"Mae'n rhaid i ni gydnabod bod mwyafrif siaradwyr Cymraeg ifanc yn byw eu bywydau drwy gyfrwng y Saesneg yn bennaf - ac ychydig ohonynt fydd yn troi at wasanaethau rhyngweithiol yn y Gymraeg allan o ryw ymdeimlad o ddyletswydd, " medd Mr Davies.
"Dim ond os bydd rhywbeth o sylwedd yno ac os byddwn yn cynnig rhywbeth arbennig na allant ei gael unrhyw le arall, y byddant yn troi at gynnwys BBC Cymru/Wales.
"A dyna'r her i bob un ohonom."
Mae'n dweud hefyd fod BBC Cymru yn adolygu ei gwasanaethau Cymraeg gyda'r bwriad o gyhoeddi cynlluniau yn ddiweddarach eleni.
Ond fe ddywed hefyd fod y nod yn amlwg yn barod.
'Hanfodol'
"Mae oddeutu 20,000 o ddefnyddwyr yn dod at ein gwasanaethau rhyngweithiol Cymraeg ni bob wythnos.
"Erbyn 2015, rydym am gyrraedd 50,000, gan gynnig gwasanaethau y mae ein defnyddwyr yn eu hystyried yn rhai hollol greiddiol a hanfodol."
Dywed y bydd hyn yn cael ei gyflawni drwy sicrhau mwy o hynodrwydd i'r gwasanaethau a rhoi canolbwynt llawer amlycach iddyn nhw - a thrwy agor y BBC i arloeswyr digidol.
"Does gennym ni ddim yr atebion i gyd - fu hynny erioed yn wir - ac rydym yn ymwybodol fod llawer o bobl y tu hwnt i'r BBC gyda syniadau cynhyrfus â'r potensial i weddnewid ein gwasanaethau.
"Rhaid inni agor ein drysau i'r bobl yma - ac i'w syniadau nhw," meddai.
Mae'n galw am ysbryd newydd o bartneriaeth ar draws y sector ddarlledu ac yn amlinellu ei uchelgais i gynnig arbenigedd technolegol y BBC i gyflenwyr eraill sy'n darparu gwasanaethau yn y Gymraeg yn ogystal â gweithio gyda Llywodraeth Cymru i wella'r ffyrdd y mae adnoddau dysgu digidol yn cael eu cynnig i fyfyrwyr.