Cwyn bod 'seddi gwlyb ar drên bach Yr Wyddfa yn annerbyniol'

Rheilffordd Yr WyddfaFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae cwmni teithiau tywysedig wedi beirniadu un o brif atyniadau Cymru, gan ddweud na fydd byth yn anfon cleientiaid yno eto.

Yn ôl Andrew Lamb, sy'n rhedeg cwmni Wales Outdoors, mae cleientiaid wedi gorfod eistedd ar seddi gwlyb wrth deithio i gopa'r Wyddfa ar drên Rheilffordd Yr Wyddfa.

Mae hefyd yn flin bod taith trên diesel wedi disodli taith trên stêm ar y funud olaf, a bod cleientiaid wedi cael gwybod yn ystod y daith na fyddai'n mynd cyn belled â'r copa.

Mae BBC Cymru wedi gofyn i gwmni Rheilffordd Yr Wyddfa am ymateb.

'Hunanfodlon'

Ym marn Mr Lamb mae'n "ddyletswydd" i'r cwmni "ddarparu taith rheilffordd gynnes a sych".

Mae'n credu bod y cwmni, gan fod y gwasanaeth yn un mor boblogaidd, "yn hunanfodlon" ac yn gweithredu fel petai "ddim angen gwasanaeth cwsmeriaid gwych".

Yn gynharach eleni, meddai, cafodd dau gleient gynnig, wrth fynd ar y trên, i gael ad-daliad llawn o £45 i beidio mynd ar y daith, neu aros ar y trên a, mwyaf tebyg, beidio â gallu cyrraedd y copa.

Ni chyrhaeddodd y trên y copa a hynny, medd y cwmni, am resymau diogelwch oherwydd gwyntoedd cryfion, ond mae Mr Lamb yn dadlau bod y cwmni wedi rhoi dau addewid yn gynharach y diwrnod hwnnw y byddai'r trên yn mynd i'r copa.

Mae'n dweud ei fod "yn deall" bod tywydd garw'n effeithio ar deithiau'r trên, ond mae'n credu nad oedd y cwmni "eisiau mynd [ar y diwrnod dan sylw] achos roedd hi'n ddiwrnod ofnadwy ac yn tynnu at ddiwedd y dydd".

Ychwanegodd fod y cwmni wedi ymateb i'w gŵyn, gan ddweud y bydd yn "cryfhau'r gefnogaeth i gwsmeriaid yn ystod trafferthion yn ymwneud â'r tywydd".

Andrew Lamb yn tynnu hunlun ar gopa mynydd mewn amodau niwlogFfynhonnell y llun, Andrew Lamb
Disgrifiad o’r llun,

Mae Andrew Lamb yn trefnu gweithgareddau antur mynydd ac yn cydnabod bod yr amodau tywydd yn gallu newid yn gyflym

Mae gwefan Rheilffordd Yr Wyddfa'n rhybuddio cwsmeriaid y gallai'r tywydd a phroblemau technegol atal neu amharu ar deithiau, a bod "gwyntoedd cryfion yn gallu effeithio ar y gwasanaeth gydol y flwyddyn".

"Mae ein trenau'n rhedeg ym mhob tywydd, gan gynnwys tywydd glawog, gwyntog neu oer," dywed y wefan.

"Dan amgylchiadau prin, gallai gwyntoedd eithafol ar y mynydd olygu bod rhaid byrhau siwrne neu hyd yn oed canslo."

Mae'r cwmni hefyd yn rhybuddio bod dim sicrwydd o weld golygfeydd gwych gan fod "gwelededd ar y mynydd yn gallu newid mewn amrantiad", ac yn annog ymwelwyr i gael syniad o amodau'r dydd trwy edrych ar wefan y Swyddfa Dywydd.

Rhan o un o gerbydau trên bach Yr Wyddfa
Disgrifiad o’r llun,

Mae Andrew Lamb yn flin bod glaw yn mynd trwy do a ffenestri cerbydau'r trên

Dywed Mr Lamb ei fod "yn deall" amodau unigryw mynyddoedd, ond mae'n honni bod y gwyntoedd yn gostegu ar y diwrnod dan sylw.

Fe gafodd ei gleientiaid hanner eu harian yn ôl, yn unol â thelerau'r rheilffordd.

Cyfeiriodd at achos arall yn 2023, pan aeth â 30 o ymwelwyr o'r Iseldiroedd i Lanberis a chael siom o wybod bod y trên wedi torri i lawr, heb opsiwn o allu teithio'n nes ymlaen.

Er i hwythau gael eu holl arian yn ôl, dywed Mr Lamb y dylid fod wedi gwneud ymdrech i'w rhoi ar drên hwyrach neu drefnu trên ychwanegol.

Dywed gwefan y cwmni bod modd aildrefnu ar gyfer diwrnod arall, neu gael ad-daliad.

Ychwanegodd Mr Lamb y bydd yn ceisio perswadio'i gleientiaid i beidio mynd ar drên Yr Wyddfa i osgoi siom.

Tra'n cydnabod pa mor wael all y tywydd fod, dywed "bod dim disgwyl [gwlypni] tu mewn i'r trên".

Awgrymodd fod angen rhyw fath o system awyru a chamau i atal glaw rhag dod i mewn i'r cerbydau.

Hunlun o Andrew Lamb yn cerdded ar fynydd ar ddiwrnod brafFfynhonnell y llun, Andrew Lamb
Disgrifiad o’r llun,

Mae Andrew Lamb wedi derbyn beirniadaeth lem ar ôl amlinellu ei gwynion am Reilffordd Yr Wyddfa ar-lein

Pan gyhoeddodd Mr Lamb neges am ei gwynion ar Facebook, fe gafodd yntau feirniadaeth lem.

Dywedodd un person ei fod yn "bathetig" a bod "dim byd yn sicr yn y mynyddoedd", ac ym marn ymatebwr arall holl bwrpas rheilffordd treftadaeth yw "ailgreu hen oes".

Dywed Mr Lamb bod y feirniadaeth yn dod gan bobl "sydd ddim yn deall sut mae twristiaeth yn gweithio", gan gyfeirio at wasanaeth "gwych" rheilffyrdd treftadaeth eraill yn y gogledd.

Mae'r trenau sy'n rhedeg rhwng Porthmadog a Beddgelert, meddai, "wedi eu cynnal a'u cadw yn wych ac yn rhedeg i safon uchel - does dim glaw yn dod i mewn trwy'r to na'r ffenestri".

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig