Llafur yn dangos 'diffyg parch at arweinyddiaeth Eluned Morgan'

Mae Eluned Morgan wedi penderfynu sefyll yn etholaeth Ceredigion-Penfro yn Etholiad y Senedd
- Cyhoeddwyd
Mae'r Blaid Lafur yn dangos "diffyg parch at arweinyddiaeth Eluned Morgan" trwy beidio â chyhoeddi eu hymgeiswyr ar gyfer Etholiad y Senedd, yn ôl arbenigwr gwleidyddol blaenllaw.
Gyda llai na chwe mis i fynd tan y diwrnod pleidleisio mae cwestiynau ynghylch pam bod gymaint o bleidiau dal heb gyhoeddi eu hymgeiswyr.
Yn siarad ar bennod ddiweddaraf podlediad Gwleidydda BBC Radio Cymru dywedodd yr Athro Richard Wyn Jones ei bod yn "arbennig" i weld plaid sydd wedi dominyddu gwleidyddiaeth Cymru yn llusgo eu traed yn yr ymgyrch hwn.
Mae Llafur wedi derbyn cais am ymateb.
Mae gweld Llafur yn aros cyhyd cyn datgelu eu hymgeiswyr wedi bod yn syndod i Richard Wyn Jones.
"O safbwynt y Blaid Lafur, dwi'n meddwl bod o'n arbennig felly, fel y blaid fwyaf, y blaid sydd wedi dominyddu gwleidyddiaeth Cymru, y blaid gafodd chwip o Etholiad Cyffredinol yng Nghymru dim ond y llynedd," meddai.
"Dwi'n meddwl bod o'n dangos diffyg parch at arweinyddiaeth Eluned Morgan, bod hyn wedi cael ei arafu lawr i ffasiwn raddau.
"Mae o mor amlwg yn boncyrs, ac mae hi'n gorfod amddiffyn y nonsens yma.
"Dwi'n meddwl bod o'n niweidiol yn wleidyddol iddyn nhw, ac yn arbennig i Eluned Morgan ei hun."
Ychwanegodd yr Athro Richard Wyn Jones fod y Blaid Lafur, gan ystyried y system bleidleisio newydd, angen meddwl am eu hymgyrch yn ofalus iawn os am lwyddo ym mis Mai.
"Mae Eluned Morgan wedi penderfynu sefyll yn Ceredigion-Penfro," meddai. "Mae Llafur angen tua 70% yng Ngheredigion, ma' hwnna'n dalcen caled iawn, iawn.
"Taswn i eisiau cael Eluned Morgan wedi'i hethol byswn i eisiau 'neud yn siŵr fod gen i ymgeisydd Llafur o bob poblogaeth, o bob ardal lle mae 'na bobl yn byw ynddo fo, sydd â rhyw fath o broffil lleol gan obeithio bo' nhw gyd yn casglu 'chydig o gannoedd o bleidleisiau Llafur, yn y gobaith fod o'n ddigon i godi Eluned Morgan i mewn i'r Senedd.
"Dydy hynny ddim wedi digwydd, a dwi wedi gweld yr enwau sydd ganddyn nhw ar gyfer yr etholaeth yna, a dydyn nhw ddim yn ddaearyddol yn gweithio yn y ffordd dwi wedi awgrymu dylia fo weithio," meddai.
"Nid yn unig ydi o'n dangos diffyg parch ati hi ond mae o'n niweidio gobeithion hi o gael ei hethol, a gobeithion y Blaid Lafur yn fwy cyffredinol."
Mae'r Blaid Lafur wedi cael cais am ymateb.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Tachwedd

- Cyhoeddwyd26 Hydref

- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
