Herio beirdd Cymru i ddeffro eu Shakespeare mewnol

  • Cyhoeddwyd
Arwel Gruffydd, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Arwel Gruffydd ei fod am herio ein beirdd

Cafodd beirdd Cymru eu herio fore Mawrth i ymroi i ysgrifennu dramâu mydryddol newydd.

Daeth yr her oddi wrth Gyfarwyddwr Artistig Cwmni Theatr Genedlaethol Cymru, Arwel Gruffydd.

Yr oedd yn siarad ar Faes yr Eisteddfod ar drothwy'r perfformiad cyntaf o Y Storm - addasiad Gwyneth Lewis o The Tempest William Shakespeare.

Wrth ganmol, drannoeth ei choroni ddydd Llun, addasiad y bardd o'r ddrama uchelgeisiol hon ychwanegodd Arwel Gruffydd:

"Rwy'n gosod her i feirdd eraill Cymru.

"Os ydych chi'n meddwl bod 'sgwennu awdl neu bryddest yn gamp yna trïwch 'sgwennu drama ar ffurf barddoniaeth.

"Dyna her ichi. Os ydych wedi ennill Coron neu Gadair dwywaith a ddim yn gwybod beth arall i'w wneud a sut i esgyn i frig goruwch na chlod yr Eisteddfod yna mentrwch ar sgwennu drama fydryddol," meddai .

"Dyna mae Gwyneth wedi ei wneud ynY Storm ac wedi gwneud hynny yn fendigedig," meddai wrth gyfeirio at y prinder enbyd o ddramâu mydryddol yn y Gymraeg.

Partneriaeth gyffrous

Disgrifiad,

Aeth Gwenllian Glyn i un o'r ymarferion ola'.

Disgrifiwyd perfformio Y Storm ar Faes yr Eisteddfod fel cychwyn "partneriaeth newydd gyffrous" rhwng yr Eisteddfod a Chwmni Theatr Genedlaethol Cymru.

Gyda'r cwmni theatr cenedlaethol yn absennol o Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam y llynedd y mae eleni yn perfformio, am y tro cyntaf yn ei hanes, ar Faes yr Eisteddfod ei hun - a hynny mewn pabell mewn gyda chynhyrchiad corfforol iawn yn cynnwys pedwar perfformiwr syrcas.

"Ond nid yn unig y mae hon yn bartneriaeth rhyngom ni â'r Eisteddfod, ond gan ei fod yn gynhyrchiad mor fawr mae'n ddibynnol ar lawer o bartneriaethau eraill hefyd gan gynnwys Canolfan y Mileniwm a'r Royal Shakespeare Company fel rhan o Ŵyl Shakespeare y Byd," meddai Arwel Gruffydd.

Bydd cynrychiolwyr yr RSC a'r Olympiad Diwylliannol yn bresennol yn y noson agoriadol, Nos Fercher.

Canmol cyn cychwyn

Cyd-ddigwyddiad ffodus o safbwynt y cwmni a'r cynhyrchiad yw i Gwyneth Lewis, ennill Coron y Brifwyl yn Llandŵ ddydd Llun.

A hyd yn oed cyn y perfformiad bu canmol ar ei haddasiad.

"Beth sydd gennym ni yn Y Storm ydi camp arall gan Gwyneth yr wythnos hon.

"Mae gennym ni destun rhywiog, cyffrous, yn addasiad o waith un o'r beirdd mwyaf fu erioed yn hanes y byd ac mae Gwyneth wedi ymateb i'r her o addasu gwaith Shakespeare mor fendigedig ac mor gyfoes; fel y byddem yn disgwyl oddi wrthi hi," meddai'r cyfarwyddwr.

"Rydym yn cynnig hwn fel testun newydd i fyfyrwyr neu gymdeithasau drama sydd am fentro i berfformio Shakespeare yn y Gymraeg," meddai.

Iaith gyfoes

"Mae Gwyneth wedi mentro i wneud yr addasiad yma yn fwy hygyrch i gynulleidfa heddiw," ychwanegodd.

"Beth mae hi wedi ei wneud yw dewis iaith fwy hygyrch i gynulleidfa gyfoes," meddai, yn hytrach iaith hynafol y bardd ei hun."

Wrth ymateb i'r ffaith bod cyfieithiad yn bod yn barod o'r ddrama hon, gan Gwyn Thomas, dywedodd Arwel Gruffydd: "Yr oeddem ni eisiau rhoi her newydd i un o'n beirdd cyfoes ni i fentro i sgwennu drama newydd fydryddol Gymraeg yn seiliedig ar waith Shakespeare ac y mae sgwennu drama ar ffurf barddoniaeth yn dipyn o her ac yr oeddem eisiau gosod yr her honno o'r newydd i fardd ymgymryd â hi yn y gobaith y bydd hynny yn abwyd i feirdd eraill ddeffro y Shakespeare ynddynt hwythau."

Bydd Y Storm i'w gweld ym Mhabell y Theatrau am 7.30pm o nos Fercher i nos Wener a dydd Sadwrn am 2.30pm ac wedyn fe fydd yn mynd ar daith.

Rhwng Medi 18-21 bydd ar safle'r sioe yng Nghaerfyrddin ac ar Stad y Faenol, Bangor, Hydref 2-6.

Mae'r addasiad wedi ei gyhoeddi gan Barddas ac ar gael ar y Maes ac mewn siopau llyfrau.