Cyllid a Thollau: Dros 1,000 o ddigwyddiadau diogelwch
- Cyhoeddwyd
Mae Cyllid a Thollau wedi cofnodi 1,135 o ddigwyddiadau diogelwch yn eu lleoliadau yng Nghymru ers Ebrill 1 2011, gan gynnwys cerbydau swyddogol yn cael eu dwyn a lladradau o'u hadeiladau.
Cafodd deunydd cwsmeriaid ei ddatgelu heb awdurdod (mewn gwirionedd neu'r potensial o wneud hynny), cafodd trwyddedau adeiladau a ffonau symudol eu colli ac roedd aelodau'r cyhoedd wedi bygwth neu anafu staff.
Hefyd roedd "ymddygiad anarferol a bygythiol" ar eu safleoedd.
Roedd 568 o achosion rhwng Ebrill 1 2011 a diwedd y flwyddyn a 567 eleni hyd ddiwedd Gorffennaf.
Mae nifer yr achosion yn "wirioneddol bryderus," yn ôl Cynghrair y Trethdalwyr.
Cafwyd yr wybodaeth oherwydd cais BBC Newyddion Ar-lein o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.
'Adnabod diffygion'
Mewn datganiad, dywedodd Cyllid a Thollau: "Fe gyflwynon ni system newydd ganolog ar gyfer nodi digwyddiadau diogelwch ar draws yr adran ym mis Mehefin 2011 er mwyn galluogi staff i gofnodi digwyddiadau'n haws ac er mwyn darparu cofrestr fwy cynhwysfawr o wybodaeth am ddigwyddiadau diogelwch.
"Mae'r adran yn ystyried diogelwch ei hasedion, gan gynnwys staff, adeiladau a data, yn fater difrifol iawn.
"Rydym yn annog ein staff i gofnodi pob digwyddiad fel y gallwn adnabod diffygion a sicrhau gwelliannau."
'Hollol annerbyniol'
Dywedodd Matthew Sinclair, Prif Weithredwr Cynghrair y Trethdalwyr: "Mae'n wirioneddol bryderus clywed bod Cyllid a Thollau wedi nodi cymaint o ddigwyddiadau diogelwch.
"Mae gan yr adran fynediad at ddata mwyaf personol trethdalwyr ac mae'n rhaid iddyn nhw sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei diogelu.
"Mae'n hollol annerbyniol iddyn nhw ddatgelu deunydd cwsmeriaid heb awdurdod, ac mae'n rhaid ymchwilio i unrhyw doriadau diogelwch yn drylwyr a'r sawl sy'n gyfrifol gael eu dal i gyfrif".
Ychwanegodd Cyllid a Thollau eu bod hefyd yn cynnwys digwyddiadau, yn unol â'r safon ryngwladol ar gyfer diogelwch (ISO 27000), ynghylch parhad busnes megis tanau, materion gwasanaeth Technoleg Gwybodaeth, a chau swyddfeydd o ganlyniad i dywydd gwael.
"Caiff pob digwyddiad ei archwilio'n lleol gan y staff a'r rheolwyr busnes er mwyn dod o hyd i'r achos ac i gyflwyno prosesau newydd er mwyn lleihau'r tebygolrwydd ohono'n ailddigwydd"
Mae gan yr adran swyddfeydd ym Mangor, Pen-y-bont ar ogwr, Caerdydd, Caerfyrddin, Bae Colwyn, Merthyr Tudful, Casnewydd, Doc Penfro, Porthmadog, Y Rhyl, Abertawe a Wrecsam.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd22 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd25 Chwefror 2012