Adrodd cerddi 'sy'n llawn dyheadau'
- Cyhoeddwyd
Ar y Maes cafodd cerddi disgyblion ysgolion Bangor eu hadrodd, cerddi'n cynnwys eu dyheadau am yr hyn allai fod yn y ganolfan celfyddydau perfformio yn y ddinas.
Yn gynharach eleni cyfrannodd y plant eu syniadau ar ffurf barddoniaeth cyn i'r gwaith adeiladu ddechrau.
Roedd tri o feirdd Cymru yn cyd-weithio ar Brosiect Pontio, y Prifardd Tudur Dylan, Karen Owen a'r Prifardd Gerwyn Williams.
Mae dros 240 o gerddi'r plant wedi eu plannu yn y ddaear lle bydd prif fynedfa'r ganolfan fydd yn agor yn 2014.
Ehangu
"Y bwriad yw ehangu'r prosiect tuag at Fethesda a de Ynys Môn," meddai Elen ap Robert, Cyfarwyddwr Artistig Canolfan Prosiect Pontio.
"Fe fydd syniadau y 30 ysgol arall yn mynd o dan y tirlun,a bydd hwnnw efallai yn gweithio yn well gan y bydd rhywbeth llythrennol yn tyfu.
"Roedd gan y plant ryddid mawr o ran y syniadau ac, yn amlwg, roedden nhw'n gofyn am rai pethau na allwn ni eu gwireddu."
Dywedodd fod 'na alw am ofod rhyngweithiol, cwtsh cynganeddu a chorlan chwarae.
'Dilyn y cynllun'
"Mae'r rhain i gyd yr un mor bwysig â'i gilydd ... rhaid darparu'r pethau uchelael ochr yn ochr â'r pethau i ddenu plant a theuluoedd i mewn," meddai.
"Oni bai bod pobl yn dod drwy'r drws dydan ni ddim yn darparu cynulleidfa newydd.
"Mae'n bwysig ein bod yn dilyn y cynllun drwodd ac, wrth gwrs, rydym wedi pwysleisio na fyddwn yn gallu gwireddu pob syniad."
Dywedodd y byddai ceisiadau am grantiau yn golygu y gallen nhw weithio gyda grwpiau lleol ar sgiliau perfformio.
"Maen bwysig mynd â gwaddol Theatr Gwynedd i'r ganolfan newydd ..."
Un o'r cerddi yw un disgyblion Blwyddyn 8 a 9 Ysgol Tryfan Bangor gyda chymorth Gerwyn Williams.
Gawn ni...?
Gawn ni oriel i ddangos gwaith celf Ysgol Tryfan,
y Band Jas a'r Côr ar ganol y llwyfan;
sioeau Bara Caws, dramâu a ffilmiau,
jôcs Tudur Owen, Brwydr y Bandiau;
stafelloedd ymarfer, safleoedd perfformio,
soffas i ddiogi, cilfannau ymlacio;
hufen ia moethus Môn ar Lwy,
cig oen Cymreig ac arno flas mwy,
tapas ecsotig, cynnyrch ffermwyr lleol,
cyngherddau rhyngwladol, nosweithiau cartrefol;
actorion hyderus a dawnswyr heini,
encil i sgrifennu, cwtsh cynganeddu;
sŵn piano, corn, ffliwt a thannau telynau,
rhythmau gitâr a churiadau drymiau;
hwylfan i'r bychain gael cropian cyn cerdded,
siopau a llyfrgell, cyfrifiaduron a phaned;
gerddi a chadeiriau, blodau a balconi
i oedi dros ginio - lle da i gymdeithasu;
ac ar do'r ganolfan, gorsaf lanio,
lle i hofrennydd o bell gael parcio,
cludo Jessie J a Beckham i'n hysgogi,
cario rhai yno i'n hannog a'n hysbrydoli;
coffi o Costa, Big Mac a swshi,
a phlîs, plîs, Elen ap - gawn ni jacwsi,
gawn ni neuadd lawn cynhesrwydd, Cymreictod a chroeso,
i'n gwneud ni yn falch o gael perthyn iddo?
GAWN NI HYN I GYD YM MANGOR - AI?
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Mehefin 2012