Disgyblion yn cyfrannu at ganolfan gelfyddydol ym Mangor
- Cyhoeddwyd
Fe fydd cerddi pobl ifanc Bangor a'r ardal yn rhan o brosiect celfyddydol yn y ddinas.
Pontio yw canolfan y celfyddydau perfformio ac arloesi ym Mangor.
Fe fydd yn agor yn 2014 a bwriad HaDASyniaDA yw bod plant yn cyfrannu cyn i'r gwaith adeiladu ddechrau.
Bydd dau o feirdd amlwg Cymru yn gweithio gyda Pontio ar y prosiect, y Prifardd Tudur Dylan a'r bardd a'r newyddiadurwraig leol Karen Owen.
Fe fyddan nhw'n ysbrydoli plant i ddatblygu eu "hadau syniadau" ar gyfer y ganolfan a'u mynegi drwy gerddi.
Cafodd prosiect Llenyddiaeth Cymru a Gwyddoniaeth Gynaliadwy ei lansio ym mhabell Prifysgol Bangor ar Faes Eisteddfod yr Urdd ddydd Iau.
Beirdd lleol
"Ar hyn o bryd mae'r safle adeiladu'n dawel, ond cyn i'r craeniau a'r jac codi baw gymryd drosodd, mae Pontio am redeg prosiect gydag ysgolion Bangor fel y gall plant a phobol ifanc Bangor gymryd perchnogaeth o'r safle," meddai Cyfarwyddwr Artistig newydd Pontio, Elen ap Robert.
"Trwy gyfrwng gweithdai mewn ysgolion cynradd ym Mangor drwy fis Mehefin bydd ein beirdd yn ysbrydoli plant i fynegi eu hunain drwy greu eu 'HaDASyniaDA' barddol eu hunain ar gyfer y ganolfan.
"Bydd y cerddi'n dathlu gweithgarwch artistig y dyfodol yn Pontio.
"Ar ôl eu creu, caiff y syniadau eu plannu ar y safle gan y plant."
'Cydweithio'
Dywedodd Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru, bod hon yn esiampl wych o weithgaredd dyfeisgar ar lefel gymunedol fyddai'n creu gwaddol gwerthfawr.
"Fe fydd barddoniaeth yn rhan o seiliau'r adeilad newydd cyffrous hwn.
"Mae Llenyddiaeth Cymru yn falch o gefnogi prosiect Pontio ac yn edrych ymlaen at gydweithio dros y blynyddoedd sydd i ddod."
Dywedodd Gwyn Tudur, Prifathro Ysgol Tryfan: "Fe fydd yn sicrhau bod llais creadigol pobl ifanc Tryfan yn cael ei glywed a pherchnogaeth dros y ganolfan yn cael ei sefydlu o'r cychwyn cyntaf."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd23 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd3 Ionawr 2012