Deiseb am driniaeth robotaidd i drin canser y prostad
- Cyhoeddwyd
Mae dros fil o bobol wedi arwyddo deiseb ar Faes yr Eisteddfod yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno triniaeth robotaidd fel sydd yn Lloegr i drin canser y prostad.
Mae'r canser yn lladd 11,000 o ddynion ym Mhrydain bob blwyddyn.
Yn Lloegr mae gan y Gwasanaeth Iechyd 37 o'r peiriannau robotaidd.
Does dim un yng Nghymru.
Yn ôl elusen Prostad Cymru, mae'r driniaeth ddiweddaraf yn rhoi canlyniadau gwell i gleifion ac yn achosi llai o sgil effeithiau.
Maen nhw felly wedi dechrau ymgyrch i annog Llywodraeth Cymru i gefnogi triniaeth o'r fath yma.
Maen nhw'n gobeithio agor canolfan arbenigol yn yr Ysbyty Athrofaol yng Nghaerdydd.
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud ei bod hi'n bosib y bydd triniaeth robotaidd ar gael yng Nghymru wrth i fwy o ymchwil gael ei gynnal.
Maen nhw hefyd yn dweud bod cyfle i bobl wneud cais unigol drwy eu Bwrdd Iechyd lleol i gael ariannu triniaeth o'r fath.