Llifogydd Ceredigion: Dosbarthu mwy na £80,000
- Cyhoeddwyd
Bydd dros £80,000 yn cael eu dosbarthu'r wythnos hon i ddioddefwyr y llifogydd yng Ngheredigion.
Daw'r arian o Gronfa Apêl Arweinydd Cyngor Ceredigion sydd wedi casglu dros £105,000 hyd yn hyn yn sgil llifogydd Gogledd Ceredigion.
Bydd cyfanswm o £80,650 yn cael ei ddosbarthu a 130 o breswylwyr yn derbyn tâl o £700 neu £250 yn unol â chanllawiau'r gronfa.
Ym Mehefin effeithiodd y llifogydd ar fwy na 1,000 o bobl, gan achosi difrod sylweddol i dai ac eiddo.
Roedd Aberystwyth a phentrefi Talybont, Dol-y-bont, Capel Bangor, Llanbadarn Fawr a Llandre ymysg yr ardaloedd gafodd broblemau oherwydd glaw trwm Mehefin 8 a 9.
'Hynod falch'
Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, y Cynghorydd Ellen ap Gwynn: "'Rwy'n hynod falch o fod mewn sefyllfa i ryddhau arian i bawb ddioddefodd yn uniongyrchol.
"Rwy'n gobeithio y bydd yr arian yn gymorth i drigolion parhaol yn eu hymdrechion i roi eu cartrefi yn ôl mewn trefn cyn gynted â phosibl."
Bydd hi'n cyflwyno sieciau yn swyddfeydd y cyngor sir yng Nghanolfan Rheidol, Llanbadarn Fawr, fore Gwener am 11am.
Ychwanegodd: "Dwi'n hynod ddiolchgar i'r cyngor sir am ganiatâd i ddefnyddio amser staff ac adnoddau i weinyddu'r gronfa ac i'r panel o ymgynghorwyr gwirfoddol, Yr Arglwydd Elystan Morgan, Elan Closs Stephens CBE - Yr Uchel Siryf, Owen Watkin OBE ac Emlyn Watkin am eu cyngor doeth wrth osod telerau dosbarthu'r arian yn eu lle."
Bydd penderfyniad ar sut i ddosbarthu'r arian sy'n weddill yn cael ei wneud ar ôl i'r taliadau cyntaf gael eu gwneud.
Cafodd adroddiad yr ymchwiliad y cyngor i'r llifogydd ei gyflwyno i gabinet yr awdurdod lleol yr wythnos ddiwethaf.
Dywedodd yr adroddiad y gallai cymunedau mewn perygl o lifogydd yng Ngheredigion orfod cyfrannu at amddiffynfeydd rhag llifogydd yn y dyfodol.
Bydd y Gronfa Apêl ar agor tan Fehefin 8, 2013.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd21 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd9 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd8 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd10 Mehefin 2012
- Cyhoeddwyd10 Mehefin 2012