Gollwng cemegau: Ymchwiliad

  • Cyhoeddwyd
Vion Llangefni
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd trigolion gerllaw gyngor i gau eu drysau a'u ffenestri am gyfnod

Fe gafodd trigolion ger Stad Ddiwydiannol Llangefni gyngor i aros yn eu cartrefi a chau drysau a ffenestri wrth i ddiffoddwyr geisio rheoli gollyngiad o gemegau mewn ffatri brosesu bwyd ar y stad.

Cafodd saith injan dân eu gyrru i Stad Ddiwydiannol Llangefni am 9:09pm nos Lun gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi i nwy amonia ollwng o ffatri yno.

Bu'r heddlu a'r gwasanaeth ambiwlans yn bresennol hefyd ynghyd â thri cherbyd arbenigol y gwasanaeth tân.

Llwyddodd diffoddwyr tân i reoli'r gollyngiad, gan adael y safle am 2:45am fore Mawrth.

Cadarnhaodd Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru eu bod wedi dechrau ymchwiliad i'r digwyddiad, ond dywedodd yr asiantaeth mewn datganiad nad oedden nhw'n credu bod bygythiad i safon yr aer ar y safle bellach.

Bywyd gwyllt

Yn eu datganiad, dywedodd Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru: "Credir bod rhwng un a dwy dunnell o amonia wedi gollwng i'r amgylchedd yn ffatri brosesu bwyd Vion ar Stad Ddiwydiannol Llangefni.

"Gallai peth o'r nwy - sy'n cael ei ddefnyddio yn sustem awyru'r safle - fod wedi troi'n hylif gan i'r Gwasanaeth Tân ddefnyddio dŵr i rwystro'r nwy rhag ymledu ymhellach.

"Mae ein swyddogion yn archwilio Afon Cefni i weld os yw'r digwyddiad wedi cael effaith ar fywyd gwyllt, ond mae arwyddion cynnar yn awgrymu nad oes difrod sylweddol wedi ei wneud.

"Gallai ymchwiliad yr Asiantaeth arwain at gamau gorfodi ar y cwmni os yw'n dangos bod y cwmni wedi torri rheolau ei drwydded."

Dywedodd llefarydd ar ran y gwasanaeth tân fod y gollyngiad wedi digwydd mewn safle "sy'n ymwneud â bwyd".

Ychwanegodd: "Mae diffoddwyr oedd yn gwisgo dillad arbennig ac offer anadlu wedi llwyddo i ganfod tarddiad y gollyngiad a'i atal, gan wasgaru'r nwy gan ddefnyddio dŵr a chadw'r gollyngiad o fewn y safle.

"Cafodd trigolion lleol gyngor i aros dan do a chau eu drysau a'u ffenestri."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol