Chris Coleman yn amddiffyn ei chwaraewyr wedi beirniadaeth

  • Cyhoeddwyd
James Collins yn herio Darren Bent o Loegr yn ei gêm olaf dros Gymru ym mis Mawrth 2011Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

James Collins yn herio Darren Bent o Loegr yn ei gêm olaf dros Gymru ym mis Mawrth 2011

Mae rheolwr tîm pêl-droed Cymru wedi amddiffyn dau o'r chwaraewyr ar ôl iddyn nhw dynnu'n ôl o'r garfan i wynebu Bosnia-Herzegovina yn Llanelli nos Fercher.

Cafodd Joel Lynch a Robert Earnshaw eu galw i'r garfan yn lle Jack Collison (pen-glin) a James Collins (morddwyd).

Dydi Collins ddim wedi chwarae i Gymru ers colli yn erbyn Lloegr ym mis Mawrth 2011 yng ngemau rhagbrofol Ewro 2012.

Mae Collison wedi wynebu trafferthion gyda'i ben-glin ers peth amser.

Mae'r cyn-chwaraewr rhyngwladol Mickey Thomas wedi beirniadau'r ddau chwaraewr sy'n chwarae i West Ham.

Dywedodd Thomas mai'r un ddau sy'n tynnu'n ôl bob tro.

Anghytuno

"Mae'n anheg, dyma gêm baratoi olaf cyn cychwyn ymgyrch Cwpan y Byd fis Medi ac mae o am gael pawb at ei gilydd.

"Os nad ydach chi eisiau chwarae dros Gymru, yna byddwch yn ddewr a dweud hynny."

Wrth ymateb i'r sylwadau, dywedodd Chris Coleman, fod Thomas "yn cael ei dalu i roi ei farn ond dydw i ddim yn cytuno gyda'r farn honno".

"Mae Jack Collison wedi cael problem gyda'i ben-glin, nid am chwech neu 12 mis ond am ddwy neu dair blynedd," meddai Coleman.

"Mae wedi chwarae efallai pan na ddylai fod.....mae o hefyd wedi teithio gyda Chymru efallai pan na ddylai.

"Rydym yn adnabod Jack ac mae o am chwarae dros Gymru, mae o'n caru chwarae dros Gymru ond yn gorfforol dydi o ddim wedi gallu gwneud hynny.

"Dydi o ddim wedi chwarae llawer yn ddiweddar.

"Dwi'n cymryd y cyfrifoldeb am ei enwi yn y garfan ac yna cael gwybodaeth am ei gyflwr.

"Dyw e ddim yn iawn, all o ddim chwarae i West Ham, felly sut mae disgwyl iddo chware i ni?"

Dywedodd ei fod yn credu bod hi'n bosib y bydd rhaid i Collins gael llawdriniaeth torgest (hernia).

Y gêm nos Fercher fydd y cyfle olaf i Coleman gael y tîm at ei gilydd cyn cychwyn ymgyrch gemau rhagbrofol Cwpan y Byd 2014.

"Mae hwn yn gêm bwysig yn erbyn tîm da iawn," ychwanegodd.

Carfan Cymru

Gôl-geidwad: Jason Brown (Aberdeen), Boaz Myhill (West Bromwich Albion), Owain Fôn Williams (Tranmere Rovers).

Amddiffynwyr: Darcy Blake (Caerdydd), Chris Gunter (Reading), Adam Matthews (Celtic), Sam Ricketts (Bolton Wanderers), Neil Taylor (Abertawe), Ashley Williams (Abertawe), Joel Lynch (Huddersfield).

Canol Cae: Joe Allen (Lerpwl), Andrew Crofts (Brighton & Hove Albion), David Edwards (Wolverhampton Wanderers), Joe Ledley (Celtic), Aaron Ramsey (Arsenal), Gareth Bale (Tottenham Hotspur).

Ymosodwyr: Craig Bellamy (Caerdydd), Simon Church (Reading), Steve Morison (Norwich City), Hal Robson-Kanu (Reading), Sam Vokes (Burnley), Rob Earnshaw (Caerdydd).

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol