Codi £150m ar gyfer cynllun trac rasio Glyn Ebwy

  • Cyhoeddwyd
World Touring Car yn Brands HatchFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,

Gallai Pencampwriaeth fel y Touring Car gael ei gynnal yno

Mae'r rheolwr sydd y tu cefn i gynllun £150 miliwn ar gyfer trac rasio ceir yn ne Cymru yn dweud bod y cyllid wedi ei gasglu ac y gall y cynlluniau gael eu cyflwyno i'r cyngor yn fuan.

Fe fydd y trac yng Nglyn Ebwy yn gallu cynnal prif bencampwriaethau a chyflogi miloedd yn ôl y prif weithredwr Michael Carrick.

Stad ddiwydiannol Rassau oddi ar Ffordd Blaenau'r Cymoedd sydd wedi ei ddewis ar gyfer y trac.

Yr wythnos nesaf fe fydd digwyddiadau cyhoeddus yn cychwyn wrth i'r cwmni barhau eu hymgynghoriad gyda'r trigolion lleol.

Cafodd y cynlluniau eu datgelu fis Tachwedd ond nawr fe fydd cynlluniau swyddogol yn cael eu cyflwyno i'r cyngor lleol o fewn rhai misoedd.

Yn ogystal â'r trac rasio fe fydd 'na ddau drac rasio oddi ar y ffordd, trac cartio, parc busnes a dau westy.

'Gwneud gwahaniaeth'

Dywedodd Mr Carrick fod 'na sawl rheswm pam bod y safle 830 acer wedi ei chlustnodi gan gynnwys y cysylltiadau trafnidiaeth a'r agosrwydd at ddinasoedd fel Caerdydd a Birmingham.

"I grynodi, fe fydd yn cael effaith economaidd positif ar yr ardal, yn gweddnewid bywydau nifer yn yr ardal, sy'n ardal ddifreintiedig," meddai wrth BBC Cymru.

Ffynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r datblygwyr am weld y MotoGP yn dod i'r cymoedd

"Fe fydd y math yma o fuddsoddiad yn gwneud gwahaniaeth sylweddol."

Cafodd cwmni o'r enw, Cwmni Datblygu Blaenau'r Cymoedd, ei sefydlu er mwyn adeiladu a chynnal y trac rasio.

Mr Carrick, cyn uwch swyddog gyda banc Merrill Lynch yn America, sy'n arwain y cwmni gyda chyn-arweinydd y Blaid Lafur, Yr Arglwydd Neil Kinnock, yn gadeirydd y bwrdd ymgynghorol.

Eglurodd Mr Carrick fod yr ymateb cynnar gan bobl leol yn tynnu sylw at yr angen am hyfforddi i sicrhau bod modd cyflogi gweithwyr o'r ardal leol.

Fe fyddai Pencampwriaeth World Touring Car a Moto GP yn gallu cael eu cynnal yno yn y dyfodol yn ôl datblygwyr.

Y gobaith yw y byddai'r gwaith yn cychwyn ar y safle'r flwyddyn nesaf cyn agor yn 2015.

Mae Cyngor Blaenau Gwent eisoes wedi dweud eu bod "â diddordeb gwirioneddol mewn unrhyw gynnig o safon a fyddi'n denu buddsoddiad sylweddol i'r ardal".

Arian i wireddu'r prosiect

"Mae'r datblygiad yma yn un cyffrous," meddai arweinydd y cyngor, Hedley McCarthy.

"Fe fydd yn gweddu gyda'r cynlluniau sydd eisoes yn bodoli yn Y Gweithfeydd a'r Parth Mentergarwch, yn ogystal â gwella ffordd Blaenau'r Cymoedd a thrydaneiddio'r rheilffordd i Lyn Ebwy."

Yn y cyfamser mae trafodaethau yn dal i'w cynnal rhwng y datblygwyr a Llywodraeth Cymru a Llywodraeth San Steffan er mwyn sicrhau mwy o gefnogaeth ariannol.

Ond mae Mark James, y sylwebydd moduro, yn dweud fod ganddo deimladau cymysg am y cyhoeddiad.

"Roedden nhw'n sôn am ddod i lefydd eraill fel Pembre ryw ddegawd yn ôl.

"Maen nhw'n pallu dod yn ôl nes bod rhywun yn buddsoddi mewn adeiladau, mewn pont neu dwnnel i groesi'r trac.

"Felly dwi ddim yn gweld y gynulleidfa yn dod i rywle fel Glyn Ebwy.

"Byddwn i yn croesawu unrhyw beth fyddai'n cefnogi'r gamp yng Nghymru, ond pam ailddechrau pan mae 'na lefydd yma yn barod, ym Mhenbre yn Tŷ Croes."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol