Galwadau 999 amhriodol yn broblem
- Cyhoeddwyd
Mae cyfarwyddwr meddygol y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru wedi rhybuddio bod pwysau mawr ar wasanaethau oherwydd galwadau 999 amhriodol.
Dywedodd Dr Chris Jones - sydd hefyd yn Brif Swyddog Meddygol Cymru dros dro - bod Gwasanaeth Ambiwlans Cymru ac adrannau brys ysbytai ar draws y wlad o dan bwysau anarferol a pharhaus.
Dros yr wythnosau diwethaf, mae cyfuniad o fwy o alwadau 999 a mwy o bobl yn mynd i adrannau brys ysbytai wedi cynyddu'r pwysau yn fwy nag erioed.
Mae'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru wedi cyhoeddi manylion rhai enghreifftiau o'r galwadau a dderbyniwyd dros y misoedd diwethaf.
Mae'n cynnwys:
Menyw yn ffonio 999 wedi i fochdew frathu ei bys;
Dwy alwad gan ddynion oedd yn diodde' o effeithiau goryfed y noson gynt;
Dyn yn ffonio 999 yn cwyno nad oedd ganddo gymorth i rwbio eli ar ei gefn;
Ambiwlans yn cludo dyn oedd wedi ffonio 999 yn cwyno o boen stumog i'r ysbyty, ond wrth gyrraedd yno neidiodd y dyn allan a rhedeg i ffwrdd gan waeddi "Diolch am y pas adre".
'Prysur iawn'
Eglurodd Dr Jones nad yw pawb sy'n mynd i adran ddamweiniau ysbytai neu yn ffonio 999 yn achosion brys.
"Rydym yn gweld nifer cynyddol o alwadau 999 amhriodol i'r Gwasanaeth Ambiwlans," meddai.
"Dylid ond ffonio 999 pan mae yna argyfwng meddygol.
"Mae gwasanaethau iechyd brys i gyd yn brysur iawn, a dylai pobl ond fynd i adran ddamweiniau os ydyn nhw wedi cael anaf drwg neu yn sâl iawn.
"Mae gan gleifion rôl i'w chwarae i ysgafnhau'r pwysau ar y gwasanaethau a byddwn yn eu hannog i ddefnyddio gwasanaeth Dewis Doeth.
"Bydd y gwasanaeth yma yn cynorthwyo pobl i wneud y dewis cywir er mwyn derbyn y driniaeth fwyaf perthnasol."
Mae Dewis Doeth, dolen allanol yn wefan gan y gwasanaeth a bellach hefyd ar gael fel 'app' ar gyfer ffonau iPhone yn rhad ac am ddim.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Mawrth 2012