Gwilym yn cofio Pont Trefechan
- Cyhoeddwyd
Gyda Chymdeithas yr Iaith Gymraeg yn dathlu ei phen-blwydd yn 50 eleni, mae gŵr o Aberystwyth fu'n rhan o brotest enwog Pont Trefechan yn rhannu ei atgofion ar wefan arbennig.
Mae Gwilym Tudur, 71, yn recordio ei atgofion o'r digwyddiadau arweiniodd at y brotest ym 1963 ac am eu huwchlwytho i wefan Casgliad y Werin Cymru.
Gwefan gyfoes, ddwyieithog sy'n canolbwyntio ar rannu hanes a phrofiadau Cymru a'i phobl â'r byd yw Casgliad y Werin Cymru.
Codi posteri
Y gobaith yw y bydd pobl yng Nghymru sydd wedi ymgyrchu dros yr iaith yn uwchlwytho cynnwys a fydd yn gymorth i adeiladu darlun cliriach o frwydr yr iaith.
Doedd gan y Gymraeg ddim statws swyddogol yng Nghymru pan sefydlwyd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ym 1962.
Roedd y protestiadau cyntaf yn cynnwys gwrthod talu dirwyon troseddol am nad oedd gwysion ar gael yn Gymraeg.
Yna yn 1952 gwelwyd teulu'r Beasleys o Langennech yn gwrthod talu treth y cyngor am fod y gwaith papur yn uniaith Saesneg.
Bu'n rhaid iddyn nhw fynd o flaen llys ynadon ddwsin o weithiau a theirgwaith daeth bwmbeilïaid i'w cartre a mynd â pheth o'u heiddo i glirio'r ddyled.
Cafodd digwyddiadau o'r fath eu crybwyll gan Saunders Lewis yn 1962 yn narlith radio flynyddol ar y BBC gan sbarduno aelodau ifanc o Blaid Cymru i sefydlu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.
Dan arweiniad dau gydysgrifennydd, E. G. 'Teddy' Milward a John Davies, trefnodd y Gymdeithas brotest yng nghanol eira Aberystwyth ar Chwefror 2.
Y nod oedd cael cymaint o bobl â phosibl i dderbyn gwŷs llys, a dyma John Davies yn canfod is-ddeddf y gallent ei thorri drwy godi posteri ar eiddo cyhoeddus.
Statws swyddogol
Erbyn heddiw, mae Gwilym wedi bod yn briod â Megan am 50 mlynedd, ond ym 1963, ag yntau'n 21 a hithau'n 20, ymunodd y ddau â thua 70 o brotestwyr eraill.
Dyma nhw'n mynd i swyddfa bost, swyddfeydd cyngor a swyddfa heddlu'r dref gan eu gorchuddio â phosteri yn mynnu 'Statws Swyddogol i'r Gymraeg' a 'Defnyddiwch yr Iaith Gymraeg'.
Mae ffotograffau o'r diwrnod gan Geoff Charles wedi cael eu hychwanegu at Gasgliad y Werin Cymru gan y Llyfrgell Genedlaethol.
"Roedd arolygydd heddlu yn sefyll y tu allan i'r swyddfa bost, ond er bod Teddy Milward yn ei herio i arestio'i gyd brotestwyr, wnaeth yr heddwas ddim codi i'r abwyd," meddai Gwilym.
"Doedd y cynllun i gael cymaint o bobl â phosibl wedi'u harestio neu eu cyhuddo ddim yn gweithio, felly dywedwyd wrth i bawb gyfarfod yn y bwyty uwchlaw'r Home Café am bost-mortem."
Bu dadlau rhwng dwy garfan yn ystod y drafodaeth: credai'r ysgrifenyddion y dylid trefnu protest arall yn y dyfodol agos tra bod yr ail garfan, gyda Gwilym a Megan yn eu plith, o'r farn bod angen gweithredu pellach ar unwaith.
Aeth tua 30 o fyfyrwyr at Bont Trefechan i gynnal protest eistedd fyddai'n cau'r brif ffordd i'r dre o gyfeiriad y de.
Ychwanegodd Gwilym, awdur y llyfr am hanes y Gymdeithas a'r brotest Wyt Ti'n Cofio: "Fy atgof pennaf oedd fan y Post Brenhinol yn refio'n swnllyd a gwthio yn erbyn fy mhengliniau.
"Rwy'n cofio pobl yn dweud cymaint o ofn oedd arnyn nhw ond cyffro oeddwn i'n ei deimlo oherwydd yr adrenalin.
"Roedd Megan yn fy nal i drwy'r cyfan. Roedd y digwyddiad yn eithaf heddychlon ar y cyfan, er bod rhai dynion lleol yn gweiddi ac yn ymaflyd â'r protestwyr, a cafodd un ddynes ganol oed ei thaflu i'r llawr.
"Wedi tua 30 munud, dyma ni'n teimlo i ni aflonyddu digon a dyma ni'n gadael braidd yn siomedig nad oedd yr heddlu wedi ein harestio ni.
"Ond dangosodd y sylw ym mhob rhan o'r wasg yn dilyn y brotest cymaint o sioc gafodd y wasg o weld myfyrwyr Cymreig yn defnyddio tactegau o'r fath."
Cafodd Deddf yr Iaith Gymraeg ei phasio yn 1967.
Ychwanegodd Gwilym: "Rwy'n credu ei bod yn hanfodol bod atgofion fel y rhain yn cael eu rhannu. Gobeithio y byddant yn calonogi pobl mewn rhannau eraill o Ewrop sydd heb statws swyddogol i'w hieithoedd. Mae ceisio ennill parch a hawliau ar lefel unigol, cymunedol a chenedlaethol yn frwydr fythol, ond mae newid anhygoel wedi bod yn y gydnabyddiaeth swyddogol i'r Iaith yng Nghymru."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Awst 2012
- Cyhoeddwyd13 Awst 2012
- Cyhoeddwyd13 Chwefror 2012