Dosbarthiad y campau Paralympaidd

  • Cyhoeddwyd

Mae 20 o gampau yn rhan o'r Gemau Paralympaidd yn Llundain 2012.

Ond nid yw pob categori anabledd yn cael cystadlu ymhob un camp.

Mae gan bob camp ei ofynion corfforol unigryw, felly mae dosbarthiad ar wahân i bob un.

SAETHYDDIAETH

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae Saethyddiaeth yn agored i athletwyr gydag anabledd corfforol, ac mae tri dosbarthiad:

ARW1: Defnyddwyr cadair olwyn gydag amhariad ar ddwy fraich a dwy goes.

ARW2: Defnyddwyr cadair olwyn sydd â defnydd llawn o'u breichiau.

ARST (sefyll): Athletwyr sy'n medru sefyll wrth gystadlu, a hefyd y rhai sydd angen stôl oherwydd cydbwysedd gwan.

ATHLETAU

Caiff pob grŵp anabl gystadlu yn yr athletau, ond mae system o lythrennau a rhifau yn cael ei defnyddio i wahaniaethu rhyngddyn nhw.

Y llythyren F sy'n dynodi campau maes (neidio, taflu ac ati), a'r llythyren T i ddynodi trac. Mae'r rhif yn cyfeirio at anableddau penodol.

11-13: Athletwyr trac a maes sydd â nam ar eu golwg. Mae athletwyr dall yn nosbarthiad 11 ac yn rhedeg gyda rhedwr i'w cynorthwyo ac yn gwisgo mwgwd. Mae athletwyr yn nosbarthiad 12 â nam ar eu golwg, ond gallen nhw ddewis cystadlu gyda rhedwr i'w cynorthwyo.

20: Athletwyr trac a maes sydd ag anabledd deallusol. Mae tair cystadleuaeth i ddynion a merched - 1500m, naid hir a thaflu pwysau.

31-38: Athletwyr trac a maes sydd â pharlys ymenyddol neu gyflwr arall sy'n effeithio ar gydsymud cyhyrau neu reolaeth. Mae athletwyr yn nosbarthiad 31-34 yn eistedd wrth gystadlu tra bod athletwyr yn nosbarthiad 35-38 yn sefyll i wneud hynny.

40: Athletwyr trac a maes o gorff byr (corachedd).

42-46: Athletwyr trac a maes sydd wedi colli aelodau o'r corff. Mae dosbarthiad 42-44 ar gyfer rhai heb goes (coesau) a dosbarth 45-46 ar gyfer rhai heb fraich (breichiau). Nid yw athletwyr y dosbarthiad yma'n defnyddio cadair olwyn.

T51-54: Athletwyr trac mewn cadair olwyn. Mae athletwyr dosbarth 51-53 â nam ar goesau a breichiau ac mae gan athletwyr dosbarth T54 rhywfaint o ddefnydd o goesau a bongorff.

F51-58: Athletwyr maes mewn cadair olwyn. Mae dosbarth F51-54 ar gyfer athletwyr gydag ychydig iawn o ddefnydd o ysgwyddau, breichiau a dwylo a dim defnydd o goesau a bongorff ac mae gan athletwyr dosbarth F54 ddefnydd o'u breichiau a dwylo. Yn nosbarth F55-58 mae'r defnydd o goesau a bongorff yn cynyddu.

BOCCIA

Mae boccia (gêm fowlio) yn agored i athletwyr gyda pharlys ymenyddol ac anableddau corfforol difrifol eraill (e.e dystroffi'r cyhyrau) ac sy'n cystadlu mewn cadair olwyn, gyda'r gamp wedi ei rhannu i bedwar dosbarth.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

BC1: Chwaraewyr sydd â pharlys ymenyddol sy'n medru defnyddio'u dwylo neu draed i wthio'r bêl. Gall athletwyr BC1 gael cymhorthydd ar y cwrt i basio'r bêl iddyn nhw cyn bob ergyd.

BC2: Chwaraewyr sydd â pharlys ymenyddol sy'n medru defnyddio'u dwylo i wthio'r bêl, ac sydd â mwy o allu symudol nag athletwr BC1.

BC3: Chwaraewyr sydd â pharlys ymenyddol neu anabledd arall sy'n cynnwys diffyg ymhob aelod sydd ddim yn medru taflu na chicio'r bêl - maen nhw'n cael defnyddio teclyn i'w cynorthwyo ac yn cael cymhorthydd i symud y teclyn ar orchmynion y cystadleuydd.

BC4: Chwaraewyr sydd heb barlys ymenyddol ond sydd ag anabledd arall sy'n golygu diffyg symudol ymhob aelod. Bydd cyflyrau fel dystroffi'r cyhyrau a spina bifida yn rhan o'r dosbarthiad yma.

SEICLO

Mae seiclo yn agored i athletwyr sydd wedi colli aelodau, "les autres" (sef athletwyr sydd ddim yn disgyn i un o'r categorïau eraill), athletwyr gyda pharlys ymenyddol ac athletwyr gyda nam ar eu golwg. Fe fyddan nhw'n cystadlu ar y ffordd ac ar y trac.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae athletwyr gyda nam ar eu golwg yn cystadlu naill ai ar feic (trac a ffordd), beiciau llaw neu dreisicl (ar y ffordd yn unig).

Mae athletwyr sydd â nam ar eu golwg yn cystadlu ar dandem gyda chynorthwy-ydd.

Beic llaw dosbarth H1-4: Mae cystadleuwyr H1-3 yn gorwedd i gystadlu. Does gan athletwyr H1 ddim defnydd o'u coesau na bongorff, ac ychydig o ddefnydd o'u breichiau tra bod H3 heb ddefnydd o goesau, ond defnydd o'u breichiau a bongorff. Mae athletwyr H4 yn eistedd ar eu pengliniau ac yn defnyddio eu breichiau a bongorff.

Treisicl T1-2: Rasys ar gyfer athletwyr sy'n methu defnyddio beic oherwydd cyflwr sy'n effeithio ar eu cydbwysedd a chydsymud. Mae gan athletwyr T1 gyflyrau mwy difrifol na rhai T2.

Beic C1-5: Ar gyfer beicwyr gyda chyflwr fel parlys ymenyddol neu sydd wedi colli braich neu goes. Mae athletwyr C1 gyfyngiadau mwy difrifol tra bod athletwyr C5 yn cwrdd â'r meini prawf isaf o anabledd.

MARCHOGAETH

Caiff pob grŵp anabledd gystadlu mewn marchogaeth gyda Para-dressage yw'r unig gystadleuaeth yn y rhaglen Paralympaidd.

Mae pum dosbarthiad ar gyfer cystadleuwyr -

Gradd Ia: Anableddau difrifol i goesau, breichiau a bongorff ac sy'n defnyddio cadair olwyn fel arfer yn eu bywydau bob dydd.

Gradd Ib: Naill ai diffyg difrifol mewn rheolaeth o'r bongorff a chyflyrau llai difrifol i'w breichiau, neu ddiffyg cymedrol mewn rheolaeth o'u breichiau a'u coesau a bongorff. Mae'r mwyafrif yn defnyddio cadair olwyn fel arfer yn eu bywydau bob dydd.

Gradd II: Gallu cyfyngedig iawn yn eu coesau, neu gyfyngiadau llai difrifol i'w coesau a'u breichiau. Mae rhai yn defnyddio cadair olwyn fel arfer.

Gradd III: Ar gyfer cystadleuwyr sy'n medru cerdded ond sydd â nam yn eu breichiau neu sydd heb freichiau. Mae'r dosbarthiad yma hefyd yn cynnwys cystadleuwyr dall a chyflyrau megis corachedd.

Gradd IV: Ar gyfer athletwyr sy'n medru cerdded ond sydd naill ai â nam ar eu golwg neu nam ar symudedd, neu ddiffyg yn eu cyhyrau, breichiau neu goesau.

PÊL-DROED

Mae gemau pump-bob-ochr ar gyfer pêl-droedwyr sydd â nam ar eu golwg, a phêl-droed saith-bob-ochr ar gyfer athletwyr gyda pharlys ymenyddol.

Rhaid i bob chwaraewr yn y gemau pump-bob-ochr wisgo mwgwd dros eu llygaid heblaw'r gôl-geidwad, sy'n medru gweld, ond sydd ddim yn cael gadael y cwrt cosbi. Does dim rheol camsefyll.

Mae'r bêl yn cynnwys pelferynnau fel ei fod yn gwneud sŵn wrth symud.

Mae gemau saith-bob-ochr ar gyfer chwaraewyr o ddosbarthiadau C5, C6, C7 ac C8 gan ddibynnu ar reolaeth o'u haelodau a phroblemau cydsymud wrth redeg.

Mae pob un o'r rhain ar gyfer athletwyr sy'n medru cerdded. C5 sy'n lleiaf abl yn gorfforol; C8 sydd â llai o anabledd.

Rhaid cael un chwaraewr o ddosbarth C5 neu C6 ar y cae drwy gydol y gêm, ac nid oes hawl i dimau gael mwy na dau chwaraewr C8 ar y cae.

PÊL-GÔL

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae pêl-gôl ar gyfer athletwyr gyda nam ar eu golwg, a does dim dosbarthiadau ar gyfer y gamp.

Mae chwaraewyr yn gwisgo mygydau er mwyn sicrhau bod pawb - yn ddall neu gyda nam ar eu golwg - yn cystadlu'n gyfartal. Mae'r mygydau yn cael eu gwirio yn ystod y gêm.

Mae'r bêl yn cynnwys clychau, ac mae gemau felly yn cael eu chwarae mewn distawrwydd llwyr.

JIWDO

Mae jiwdo ar gyfer athletwyr sydd â nam ar eu golwg yn unig. Does dim dosbarthiad, ac mae athletwyr yn cystadlu mewn dosbarthiadau pwysau yn yr un modd ag athletwyr abl.

Y prif wahaniaeth yw bod yr ornest yn dechrau gyda'r ddau gystadleuydd yn gafael yn ei gilydd yn hytrach nag ar wahân.

CODI PWYSAU

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae codi pwysau yn agored i bob athletwr gydag anabledd corfforol, ac mae'r dosbarthiadau ar sail pwysau yn unig.

Bydd gan y cystadleuwyr anableddau i'w coesau (gan gynnwys parlys), parlys ymenyddol, neu wedi colli coes neu goesau.

Mae dynion a merched yn cystadlu mewn 10 dosbarth pwysau.

RHWYFO

Mae'r cystadlaethau rhwyfo wedi eu rhannu'n bedwar dosbarthiad.

AM1x: Cwch sgwlio unigol i ddynion. Mae gan athletwyr ddefnydd llawn o'u breichiau yn unig.

AW1x: Cwch sgwlio unigol i ferched. Mae gan athletwyr ddefnydd llawn o'u breichiau yn unig.

TA2x: Cwch sgwl dwbl ar gyfer dynion a merched (yn gymysg ar adegau) ar gyfer athletwyr gyda defnydd o'r breichiau a bongorff yn unig.

LTA4+: Cwch pedair sedd ar gyfer dau ddyn a dwy ferch. Mae hwn ar gyfer athletwyr gydag anabledd ond sy'n medru defnyddio rhywfaint o'u coesau, breichiau a bongorff. Caiff pob cwch gynnwys dau athletwr sydd â nam ar eu golwg ac sy'n gwisgo mygydau yn ystod ymarfer a'r gystadleuaeth ei hun.

HWYLIO

Mae hwylio ar gyfer athletwyr gyda phob math o anabledd sy'n cael cystadlu gyda'i gilydd.

Mae tri dosbarthiad hwylio: Sonar, sef criw cymysg i dri pherson, Skud-18, criw cymysg o ddau berson, a'r 2.4mRar gyfer un person.

Mae'r system farcio o 1 i 7 lle mae marciau is i'r rhai gydag anabledd difrifol a hyd at 7 i'r rhai gyda llai o anabledd.

Fe gaiff bob criw o dri, gyfanswm o 14.

Yn y dosbarthiad Skud-18 mae gan un hwyliwr lefel mwy difrifol o anabledd (1 neu 2) gyda'r llall â lefel o anabledd sy'n golygu nad ydynt yn medru cystadlu'n gyfartal gyda hwylwyr abl.

Rhaid i hwylwyr unigol gael yr un lefel o anabledd.

SAETHU

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Caiff saethwyr eu rhannu i grwpiau cadair olwyn neu sefyll.

Mae yna chwe is-ddosbarthiad sy'n penderfynnu pa fath o offer symudedd y caiff pob cystadleuydd ddefnyddio.

SH1: Cystadleuwyr llawddryll a reiffl sydd ddim angen stand i saethu.

SH2: Cystadleuwyr reiffl sydd ag anabledd i'w breichiau ac sydd angen stand saethu.

NOFIO

Nofio yw'r unig gamp sy'n cyfuno colli aelodau, parlys ymenyddol, anafiadau i fadruddyn y cefn ac anableddau eraill megis corachedd ar draws bob dosbarth.

1-10: Ar gyfer nofwyr gydag anabledd corfforol. Mae rhif is yn dynodi lefel uwch o anabledd.

11-13: Ar gyfer nofwyr gyda nam ar eu golwg.

14: Ar gyfer nofwyr gydag anabledd deallusol.

Mae'r rhagddodiad S yn dynodi dulliau rhydd, cefn a pili pala, SB ar gyfer dull broga, ac SM ar gyfer aml-ddull unigol.

Ymhob dosbarthiad, caiff nofwyr ddechrau drwy blymio i'r dŵr neu ddechrau yn y dŵr. Mae hyn yn cael ei ystyried wrth ddynodi dosbarthiad pob athletwr.

Mae dosbarthiad 14 yn dychwelyd i'r Gemau yn Llundain wedi iddo gael ei hepgor yn Beijing.

TENIS BWRDD

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Caiff tenis bwrdd ei chwarae gan athletwyr gydag anableddau corfforol a deallusol, ac yn cael eu rhannu i 11 dosbarthiad.

1-5: Athletwyr sy'n defnyddio cadair olwyn, gyda dosbarthiad 1 yn dynodi anabledd difrifol a dosbarthiad 5 ar gyfer llai o anabledd.

6-10: Athletwyr sy'n medru cerdded - unwaith eto mae rhif uwch yn dynodi llai o anabledd.

11: Athletwyr gydag anabledd deallusol.

PÊL-FOLI EISTEDD

Mae pêl-foli eistedd ar gyfer athletwyr gydag anabledd corfforol, ac mae Prydain yn cystadlu am y tro cyntaf yn y cystadleuthau i ddynion a merched.

Mae dau ddosbarthiad - anabledd minimol (MD) ac anabl (D) - a dim ond un chwaraewr MD sy'n cael bod ar y cwrt ar y tro gyda'r pump arall yn nosbarthiad D.

PÊL-FASGED CADAIR OLWYN

Mae pêl-fasged cadair olwyn yn agored i athletwyr sydd ag anableddau yn cynnwys parlys cyfan, colli aelodau, parlys ymenyddol a pholio.

Caiff yr athletwyr eu dosrannu yn ôl abledd corfforol ac yn derbyn pwyntiau rhwng 1 a 4.5. Mae 1 yn dynodi'r anabledd mwyaf difrifol a 4.5 y lleiaf.

Caiff pob tîm bum aelod, ond nid yw cyfanswm pwyntiau'r tîm yn cael bod yn uwch nag 14 ar unrhyw adeg.

CLEDDYFAETH CADAIR OLWYN

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae cleddyfaeth cadair olwyn yn agored i athletwyr sydd ag anableddau yn cynnwys anafiadau mydruddyn y cefn, colli coesau a pharlys ymenyddol ac sydd â'u cyflyrau yn eu rhwystro rhag cystadlu yn erbyn cystadleuwyr abl eu cyrff.

Mae dau ddosbarthiad i athletwyr yn y gamp.

Categori A: Athletwyr gyda chydbwysedd da a symudiad llawn yn y bongorff.

Categori B: Athletwyr gyda chydbwysedd gwael, ond sy â defnydd llawn o un neu ddwy fraich.

RYGBI CADAIR OLWYN

Caiff athletwyr rygbi cadair olwyn eu dosrannu gan ddefnyddio sustem bwyntiau gyda'r rhai gydag anableddau mwy difrifol yn cael 0.5 pwynt gan godi i 3.5 i'r rhai llai anabl.

Mae pedwar chwaraewr i bob tîm, ac fe gaiff pob tîm gyfanswm o 8 pwynt ar y cwrt ar unrhyw adeg.

TENIS CADAIR OLWYN

Mae tenis cadair olwyn yn cael ei chwarae gyda dau ddosbarthiad - agored a quad (anabledd mewn tri neu fwy o aelodau'r corff).

Mewn tenis cadair olwyn, fe gaiff y bêl fowndio ddwywaith cyn bod rhaid ei tharo yn ôl, gyda'r un cyntaf y tu fewn i ardal y cwrt chwarae.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol