Dyn o Aberystwyth a lofruddiodd merch 2 oed wedi marw yn y carchar

Cadarnhaodd y Gwasanaeth Carchardai ddydd Mercher fod Kyle Bevan wedi marw yng ngharchar Wakefield
- Cyhoeddwyd
Mae tri charcharor wedi eu harestio ar amheuaeth o lofruddiaeth ar ôl i ddyn o Aberystwyth a lofruddiodd merch ddwy oed yn 2020 gael ei ganfod yn farw yn y carchar.
Cafodd Kyle Bevan, 33, ei ddedfrydu i o leiaf 28 mlynedd dan glo yn 2023 am lofruddio Lola James yn ei chartref yn Hwlffordd.
Bu farw Lola yn yr ysbyty ar 21 Gorffennaf 2020 o anaf "catastroffig" i'w phen, ac roedd ganddi 101 o anafiadau allanol.
Cafodd Bevan ei ganfod yn euog o ymosodiad "ciaidd" ar Lola, merch ei gariad, tra'i fod yn gofalu amdani.
Dywed y llu fod marwolaeth Bevan yn cael ei drin fel un "amheus", gydag ymchwiliadau yn digwydd er mwyn canfod amgylchiadau ei farwolaeth yn llawn.
"Mae tri dyn, sy'n garcharorion, wedi eu harestio ar amheuaeth o lofruddiaeth," meddai llefarydd.
Cafodd mam Lola, Sinead James, hefyd ddedfryd o chwe blynedd o garchar am achosi neu ganiatáu ei marwolaeth.

Bu farw Lola James yn yr ysbyty ar 21 Gorffennaf 2020
Cadarnhaodd y Gwasanaeth Carchardai ddydd Mercher fod Bevan wedi marw yng ngharchar Wakefield.
Dydyn nhw ddim wedi cadarnhau achos ei farwolaeth, ac maen nhw'n dweud na allan nhw wneud sylw pellach tra bo'r heddlu'n ymchwilio.
Daw marwolaeth Bevan lai na mis ar ôl i'r troseddwr rhyw Ian Watkins, cyn-ganwr y grŵp roc o Gymru Lostprophets, farw yn dilyn ymosodiad yn yr un carchar.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Ebrill 2023

