Rhybudd am 'ffeiliau a ffeiliau' o gwynion am Neil Foden yn 2009

Cafodd Neil Foden ei garcharu am 17 mlynedd ar ôl cael ei ganfod yn euog o gam-drin pedair merch yn rhywiol
- Cyhoeddwyd
Mae rhiant a gododd bryderon am y pedoffeil Neil Foden pan oedd yn bennaeth ysgol yn dweud bod y cyngor wedi sôn am "ffeiliau a ffeiliau" o gwynion amdano yn 2009.
Cododd y fam ei phryderon ar ôl i'w mab gael ei wahardd o Ysgol Friars, Bangor, ddwywaith heb reswm clir yn ystod ei flwyddyn olaf.
Y llynedd cafodd Neil Foden ei garcharu am 17 mlynedd ar ôl cael ei ganfod yn euog o gam-drin pedair merch yn rhywiol.
Daeth adolygiad o droseddau Foden i'r casgliad fod rhybuddion a gafodd eu codi dro ar ôl tro am y prifathro wedi eu hanwybyddu neu heb gael ymateb digonol.
Dywedodd prif weithredwr Cyngor Gwynedd ei fod yn "deall bod cyfrifoldeb i edrych ar bob un methiant yn yr adroddiad... ac mi fyddwn ni'n gwneud".
Mae'r cyngor hefyd wedi dweud eu bod "eisoes wedi ymrwymo i weithredu ar bob casgliad ac argymhelliad yn llawn ac yn ddi-oed" yn dilyn yr adolygiad.
'Dros 50 o gyfleoedd wedi eu colli' i atal y pedoffeil Neil Foden
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
'Adroddiad damniol a dychrynllyd' - dioddefwr Neil Foden
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
Lle i bob ysgol yn y DU ddysgu o achos Foden - awdur adroddiad
- Cyhoeddwyd21 awr yn ôl
Yn 2009, mi gafodd mab Linda, nid ei henw iawn, ei wahardd ddwywaith o Ysgol Friars yn ei flwyddyn olaf yn yr ysgol.
Doedd Foden ddim yn fodlon cyfarfod y teulu i drafod, felly aeth at Gyngor Gwynedd am help.
Dywedodd bod uwch swyddog o Gyngor Gwynedd wedi dweud wrthi yn 2009 bod cwynion am Foden yn "gylch parhaus".
"Dim fi oedd y rhiant cynta' i godi pryderon am Foden medden nhw.
"Mi ddudodd un swyddog addysg ar y pryd, fod yr adran yn dal 'ffeiliau a ffeiliau o gwynion am Foden'."
Dywedodd Linda fod y swyddog addysg wedi dweud y byddai'n cofnodi ei phryder, ond iddi beidio disgwyl ymateb sydyn oherwydd bod ganddo "ffeiliau anferth o bryderon a chwynion yn barod am Foden, Ysgol Friars ac aelodau o staff yn yr ysgol".

Dywedodd Linda bod swyddogion Cyngor Gwynedd wedi dweud bod cwynion am Foden yn "gylch parhaus"
Yn ôl rhiant arall, Rhiannon - nid ei henw iawn - roedd ei merch 16 oed wedi cael ei chadw mewn ystafell ynysu cyn cael ei chymryd i swyddfa'r pennaeth yn 2014 ar ôl postio sylwadau beirniadol ar-lein am ofal bugeiliol Ysgol Friars.
"Roedd hi'n dal i alaru am golli ei ffrind gorau i hunanladdiad y flwyddyn gynt," meddai Rhiannon.
"Roedd rhieni ei ffrind hefyd wedi siarad allan am yr hyn yr oedden nhw'n ei ystyried fel methiannau'r ysgol wrth gefnogi eu merch, a oedd wedi cael diagnosis o sgitsoffrenia."
Dywedodd Rhiannon fod Foden a rhai uwch aelodau o staff wedi "ceryddu" ei merch am oriau, gan rybuddio y gallai ei sylwadau ar-lein "ddifetha ei dyfodol" ac efallai na fyddai'n mynd i'r brifysgol.
Galwyd swyddog heddlu, ac awgrymwyd y gallai ei merch fod wedi cyflawni trosedd.
'Roedd yn fy ngwneud yn sâl'
Mae Rhiannon hefyd yn cofio sylw amhriodol a ddywedodd Foden wrth ei merch.
"Rwy'n ei gofio'n dweud, 'Wel, mae gen ti geg fach fudr, yn does?'
"Roeddwn i'n gandryll pan glywais hyn," meddai. "Roedd yn gwneud i mi deimlo'n anghyfforddus.
"Dyn... oedolyn oedd hwn yn siarad gyda merch 16 oed. Roedd yn fy ngwneud yn sâl."
Ychwanegodd hi: "Roedd gan Foden gylch o bobl a oedd yn ei amddiffyn.
"Yn fy marn i, dim ond mater o amser oedd hi cyn i'w ymddygiad waethygu, a dylid dwyn y bobl a wnaeth adael i hyn ddigwydd hynny i gyfrif."
Mewn ymateb dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: "Gan nad oes gennym wybodaeth am yr achos penodol hwn mae'n anodd i ni gynnig sylw.
"Serch hynny, mae Ymchwilwyr Annibynnol yr Adolygiad Ymarfer Plant wedi bod yn ymchwilio i honiadau o'r fath ers dros flwyddyn ac rydym eisoes wedi ymrwymo i weithredu ar bob casgliad ac argymhelliad yn llawn ac yn ddi-oed."

Mae adolygiad o droseddu Foden yn nodi bod rhybuddion wedi'u hanwybyddu neu heb gael ymateb digonol
Yn ogystal â rhieni, mae cyn-aelod o staff gyda Chyngor Gwynedd, oedd yn delio ag achosion yn gysylltiedig â Neil Foden, hefyd wedi rhannu ei phrofiadau.
Mae Mari - nid ei henw iawn - bellach wedi gadael Cyngor Gwynedd ac nid ydym yn enwi ei hadran.
Yn ôl Mari, daeth enw Neil Foden i fyny dro ar ôl tro yn y swyddfa dros y blynyddoedd oherwydd nifer y materion a gyfeiriwyd at y cyngor ynghylch ei reolaeth o Ysgol Friars.
"Roedd Ysgol Friars yn sefyll allan yn bendant," meddai, gan ychwanegu ei bod "yn ymddangos ei fod yn cael ei dderbyn bod Foden yn bennaeth hollol ddidrugaredd, oedd yn rheoli fel y mynnai.
"Ac er bod swyddogion yn sicr yn cwestiynu'r patrwm, doedd hynny ddim yn cael eu codi ar y lefel rheolaethol priodol."

Fe wnaeth Mari ddisgrifio diwylliant Cyngor Gwynedd fel un "anfoesol", gan honni bod "rhai unigolion wedi'u diogelu a'u dyrchafu" a bod penodiadau mewnol allweddol yn aml yn "dangos diffyg tryloywder, gan ffafrio cysylltiadau personol, cyfeillion gwleidyddol neu ffafriaeth".
Yn ei barn hi, roedd staff a "wnaeth yn glir nad oedd ganddynt unrhyw deyrngarwch penodol" yn aml yn cael eu "gwthio i'r ymylon a'u trin yn llai ffafriol".
Mae Mari mewn cysylltiad â rhai staff Cyngor Gwynedd sydd wedi dweud wrthi, er gwaethaf y craffu diweddar yn dilyn achos Foden, mai "ychydig sydd wedi newid o ran diwylliant".
Fodd bynnag, mae Mari yn cydnabod nad yw hyn o bosib yn adlewyrchu profiadau pob aelod o staff.
Dywedodd aelod presennol o staff yr awdurdod bod "tuedd hanesyddol yn y cyngor i ffafrio dynion ar gyfer dyrchafiadau".
Ychwanegodd Sophie - nid ei henw iawn - bod rhai swyddi wedi eu llenwi heb rybudd neu heb roi cyfle i staff gynnig eu hunain.
Ym marn Sophie: "Os nad ydych chi'n ran o unrhyw gliciau, rydych chi'n llai tebygol o gael dyrchafiad."
Er ei bod yn cydnabod y polisi o hyrwyddo merched mewn arweinyddiaeth, cyfeiriodd at ymdeimlad bod "cynnydd wedi bod yn araf".
'Cymryd unrhyw awgrym o annhegwch o ddifri'
Mewn ymateb dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd eu bod yn cymryd unrhyw awgrym o annhegwch wrth benodi staff o ddifrif.
"Mae gan Gyngor Gwynedd – fel pob sefydliad cyhoeddus arall – bolisïau recriwtio a chyflogaeth cadarn, sy'n nodi y bydd pob swydd yn cael ei recriwtio ar sail teilyngdod a bydd y meini prawf dethol a ddefnyddir yn berthnasol i'r swydd ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal.
"Mae disgwyl fod pob penodiad o fewn y cyngor yn deg, yn dryloyw ac yn dilyn y polisi hwn yn llawn.
"Rydym yn lwcus o gael gweithlu proffesiynol a chydwybodol sydd yn gweithio i'r cyngor oherwydd eu hymdeimlad o berthyn i gymunedau arbennig Gwynedd ac yn dymuno'r gorau i drigolion yr ardal.
"Rydym yn falch o'n staff ac yn ofalgar ohonynt pob amser.
"Mae oddeutu 6,000 o bobl yn gweithio i Gyngor Gwynedd, ac fel pob sefydliad mawr arall, rydym yn cydnabod ei bod yn anochel y bydd anghytundeb yn siŵr o godi o dro i dro.
"Rydym yn cymryd unrhyw awgrym o annhegwch o ddifri a byddwn yn annog unrhyw un sydd â phryderon am y broses benodi ar gyfer swydd benodol i gysylltu gyda'r swyddog perthnasol sy'n gweithredu'r broses recriwtio a phenodi (bydd manylion cyswllt ar unrhyw ohebiaeth rhwng y cyngor ac ymgeisydd am swydd)."

Dafydd Gibbard: "'Da ni'n deall bod cyfrifoldeb i edrych ar bob un methiant yn yr adroddiad"
Yn sgil cyhoeddi'r adroddiad, dywedodd prif weithredwr Cyngor Gwynedd, Dafydd Gibbard, na fyddai'r cyngor yn ymddwyn yn amddiffynnol nac yn ceisio cyfiawnhau yr hyn ddigwyddodd.
"Mae o'n ddychryn, mae'n sioc ac yn ddifrifol," meddai.
"Dwi'n gweithio mewn llywodraeth leol ers 30 mlynedd a dwi erioed wedi darllen adroddiad mor feirniadol.
"Mae'n boenus i'w ddarllen, mae'n boenus i ni fel sefydliad ac fel unigolion, ond mae'n rhaid i ni gael dros hynny.
"Dydi'r hawl ddim ganddon ni i bitïo ein hunain."
'Cyfrifoldeb i edrych ar bob un methiant'
Ychwanegodd: "Dydy'r boen 'da ni'n mynd drwyddo ddim byd i'w gymharu gyda'r boen mae'r dioddefwyr yn mynd drwyddo.
"Ein rôl ni ydy derbyn yr adroddiad a pharhau i ymddiheuro am yr holl fethiannau sydd ynddo.
"Mi oeddan ni angen yr adroddiad yma... mae'r gwersi amlwg sydd i'w dysgu yn bethau allwn eu defnyddio.
"'Da ni'n deall bod cyfrifoldeb i edrych ar bob un methiant yn yr adroddiad, bob un o'r prosesesau a'r camau a'r penderfyniadau a phopeth arall... ac mi fyddwn ni'n gwneud."