Cronfa i adnewyddu tai gwag
- Cyhoeddwyd
Gall pobl sy'n bwriadu adnewyddu tai gwag yng ngogledd Cymru wneud cais am gymorth ariannol i wneud hynny fel rhan o gynllun i geisio taclo prinder tai.
Mae cynllun Troi Tai'n Gartrefi gan Lywodraeth Cymru yn darparu benthyciad di-log o hyd at £25,000 i bobl adnewyddu tai a fflatiau.
Y nod yw ceisio defnyddio'r 20,000 o dai gwag yng Nghymru er mwyn ateb y galw cynyddol am gartrefi.
Mae gan y cynllun gronfa o £2.35 miliwn i rannu rhwng perchnogion a datblygwyr yng ngogledd Cymru.
Er mwyn bod yn gymwys i'r cynllun rhaid i'r tŷ fod wedi bod yn wag am chwe mis neu fwy.
Gall pob eiddo dderbyn benthyciad o hyd at £25,000, ond mae modd i bob unigolyn sy'n gwneud cais dderbyn mwyafswm o £150,000.
'Adnodd wedi ei wastraffu'
Dywedodd y Cynghorydd David Smith o Gyngor Sir Ddinbych ei fod yn croesawu'r £300,000 o fenthyciadau sydd ar gael yn y sir.
Dywedodd y byddai'n "gymorth mawr i droi tai gwag yn gartrefi i bobl ar draws y sir".
Dywedodd y Gweinidog Tai, Huw Lewis AC, bod tai gwag yn "adnodd wedi ei wastraffu".
"Mae tua 20,000 o dai ar draws Cymru sydd wedi bod yn wag ers tro gan amddifadu pobl Cymru o gartrefi ac achosi pla yn y cymunedau," meddai.
"Mae darparu cartrefi fforddiadwy o safon uchel yn flaenoriaeth ar draws Cymru, ac rydym wedi bod yn ystyried sawl ffordd o'n cynorthwyo i ateb y galw cynyddol.
"Rydym yn gobeithio y bydd cynllun Troi Tai'n Gartrefi yn annog landlordiaid, perchnogion tai a datblygwyr i wneud cais, a throi tai gwag yn gartrefi."