Mewn Llun: Caerdydd a Bae Colwyn yn croesawu'r Gemau Paralympaidd

  • Cyhoeddwyd
Y seiclwr Paralympaidd Simon Richardson wnaeth danio'r Grochan yng Nghaerdydd a rhoi cychwyn ar ddiwrnod o ddigwyddiadau yn y ddinas
Disgrifiad o’r llun,

Y seiclwr Paralympaidd Simon Richardson wnaeth danio'r Grochan yng Nghaerdydd a rhoi cychwyn ar ddiwrnod o ddigwyddiadau yn y ddinas

Disgrifiad o’r llun,

Bu'r fflam ar daith o amgylch y ddinas, gan gynnwys Canolfan Chwaraeon Lecwydd

Disgrifiad o’r llun,

Aeth y Fflam, mewn llusernau'r glöwr, i Ysbyty Rookwood yn Llandaf, Caerdydd. Mae'r ysbyty yn cynnig gwasanaeth a gofal ar gyfer cleifion sydd angen triniaeth hir dymor ar ôl strôc, anafiadau i'r ymennydd neu anafiadau asgwrn cefn.

Disgrifiad o’r llun,

Yng nghanol Caerdydd roedd cyfle i weld a chymryd rhan mewn amryw o weithgareddau chwaraeon Paralympaidd, gan gynnwys jiwdo

Disgrifiad o’r llun,

Roedd y glaw wedi cael effaith ar ddigwyddiadau yn Yr Ais, ond roedd digwyddiadau dan do fel tenis bwrdd, wedi denu'r torfeydd

Disgrifiad o’r llun,

Roedd yr arddangosfeydd yn gyfle i bobl gael blas ar y campau

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y Fflam ei chludo mewn taith gyfnewid ar hyd y trac athletau ym Mae Colwyn yn ogystal

Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth y Fflam gyrraedd Bae Colwyn mewn hofrennydd

Disgrifiad o’r llun,

I nodi cychwyn y Gemau cafodd gêm o bêl-fasged cadair olwyn ei gynnal ym Mharc Eirias

Disgrifiad o’r llun,

Ond roedd angen ymbarél ar gyfer y dathliadau ym Mae Caerdydd wrth i'r ymarferion munud ola’ gael eu cynnal

Disgrifiad o’r llun,

Ond fe wnaeth Only Men Aloud ymarfer er gwaetha'r glaw