Charlotte Church yn beirniadu'r Sun

  • Cyhoeddwyd
Charlotte ChurchFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Mae Charlotte Church wedi rhoi tystiolaeth gerbron ymchwiliad Leveson i foeseg y cyfryngau

Mae'r gantores Charlotte Church wedi beirniadu papur newydd y Sun am gyhoeddi lluniau o'r Tywysog Harry yn noeth.

Dywedodd y papur bod y weithred yn brawf o ryddid y wasg, ond mae Comisiwn Cwynion y Wasg wedi derbyn dros 850 o gwynion.

Dywedodd y gantores wrth BBC Cymru: "Roedd y lluniau ar gael ar y we os oedd rhywun am eu gweld a llunio barn eich hunan amdanynt."

Mae Ms Church wedi bod yn feirniadol o ymyrraeth y wasg yn y gorffennol a derbyniodd iawndal sylweddol gan gyhoeddwr y News of the World.

Roedd y gantores yn siarad wedi iddi berfformio yng Nghaerdydd fel rhan o ddathliadau'r Fflam Paralympaidd.

"Dydw i ddim yn credu bod y Sun angen cymryd y cam pellach yna a'u cyhoeddi," meddai.

"Roedd mewn ystafell breifat mewn gwesty. Rwy'n credu bod hynny yn amharu ar ei breifatrwydd.

"Dydyw i ddim yn frenhinwr, a dydw i ddim yn cefnogi'r naill ochr na'r llall yn y ddadl."

Dywedodd y Sun bod y lluniau ar gael ar draws y byd, a bod gan eu darllenwyr yr hawl i'w gweld ac fod y weithred yn brawf o ryddid y wasg.

Pan gafodd y lluniau eu tynu roedd y tywysog ar benwythnos preifat gyda ffrindiau yn Las Vegas.

Credir bod y ddau lun o'r tywysog a menyw noeth wedi eu tynu ar gamera ffôn symudol.

Yn gynharach eleni, cafodd Charlotte Church a'i rhieni iawndal a chostau o £600,000 gan News Group Newspapers oedd yn cyhoeddi'r News of the World.

Clywodd yr Uchel Lys bod ffôn y gantores wedi cael ei hacio pan oedd yn 16 oed.

Mae hi hefyd wedi rhoi tystiolaeth i ymchwiliad Leveson i foeseg y cyfryngau.