Caerdydd a Bae Colwyn yn croesawu'r Fflam Paralympaidd

  • Cyhoeddwyd

Mae'r Fflam Paralympaidd wedi cyrraedd Caerdydd.

Fe gynnwyd y Fflam ar gopa'r Wyddfa yr wythnos diwethaf, ac fe'i cadwyd mewn llusern ers hynny.

Am 8am fore Llun fe danwyd crochan y tu allan i Neuadd y Ddinas, a bydd y diwrnod yn gorffen gyda gŵyl ym Mae Caerdydd.

Rhwng y ddau ddigwyddiad, mae'r Fflam wedi teithio i amryw leoliadau o gwmpas y ddinas ac mae arddangosfa o rai o'r campau Paralympaidd wedi eu cynnal, er gwaetha'r tywydd gwlyb.

Ymhlith y digwyddiadau eraill yng Nghymru ddydd Llun i ddathlu'r achlysur, mae prynhawn o weithgareddau wedi eu cynnal ym Mharc Eirias ym Mae Colwyn.

Yno cafodd y torfeydd gyfle i weld y Fflam mewn llusern wrth iddi deithio o amgylch y trac athletau.

Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Ym Mae Colwyn cafodd y Fflam ei chludo o amgylch Parc Eirias

Seiclwr Paralympaidd

Mae'r dathliadau yng Nghaerdydd yn ddiwedd cyfres a welodd ddigwyddiadau arbennig yn Llundain ddydd Gwener, Belfast ddydd Sadwrn a Chaeredin ddydd Sul i nodi'r achlysur.

Cychwynnodd diwrnod Caerdydd wrth i'r seiclwr Paralympaidd Simon Richardson danio'r Grochan ger Agitos - symbol y Gemau Paralympaidd - ac roedd aelodau o dîm pêl-fasged cadair olwyn Celtiaid Caerdydd yn bresennol.

Roedd tua 100 o bobl yno i weld y grochan.

Wedi'r digwyddiad dywedodd Richardson, enillodd ddwy Fedal Aur ac un Arian yng Ngemau Beijing 2008, y byddai wedi bod wrth ei fodd yn cymryd rhan yn y Gemau eleni.

Roedd i fod yn rhan o'r tîm beicio ond cafodd ei daro oddi ar ei feic gan yrrwr oedd dros y lefel gyfreithiol o alcohol wrth hyfforddi.

"Dyma'r peth gorau at gystadlu mae'n debyg," meddai.

"Roedd yn gymaint o sioc cael yr alwad yn gofyn i mi wneud hyn."

O ganol Caerdydd fe deithiodd y Fflam mewn llusern i Ysbyty Rookwood yn Llandaf.

Campau

Mae'r ysbyty yn arbenigo ar waith niwrolegol ac anafiadau i'r cefn ac mae nifer o Barathletwyr wedi derbyn triniaeth yno.

Mewn dwy lusern fe aeth y fflam o amgylch wardiau'r ysbyty.

O Landaf teithiodd y Fflam i Ganolfan Chwaraeon Lecwydd cyn mynd ymlaen i'r Ais, yng nghanol y siopau lle'r oedd arddangosfa o gampau.

Ymhlith y campau oedd yn cael sylw yr oedd, jiwdo, tenis bwrdd, pêl-fasged a rhwyfo.

Daeth y diwrnod i ben wrth i ras gyfnewid gyda'r Fflam gael ei chynnal o'r Gyfnewidfa Lo am 7pm i'r Basn Hirgrwn ger Canolfan y Mileniwm, ac yno bydd cerddoriaeth a thân gwyllt.

Roedd y ras tipyn llai na'r disgwyl oherwydd y glaw.

Disgrifiad o’r llun,

Er y tywydd roedd rhai cannoedd wedi ymgasglu ym Mae Caerdydd ar gyfer y cyngerdd

Yn y Bae roedd 'na gyngerdd yng nghwmni Only Men Aloud, Only Boys Aloud a bu Charlotte Church yn diddannu yng Nghanolfan y Mileniwm yn gynharach.

Er y tywydd roedd ychydig gannoedd wedi mentro allan i weld penllanw'r digwyddiad gyda chrochan arall yn cael ei thanio yn y Bae ar ddiwedd y dathliadau.

Bydd y Fflam nawr yn cael ei chludo i gartref ysbrydol y mudiad Paralympaidd yn Stoke Madeville ddydd Mawrth.

Yno bydd yn uno gyda'r fflamau o Loegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon i greu'r Fflam Paralympaidd.

Bydd seremoni yno ddydd Mawrth cyn i un Fflam Paralympaidd baratoi am y daith olaf sy'n diweddu yn y Stadiwm Paralympaidd yn seremoni agoriadol y Gemau ddydd Mercher.

Dywedodd arweinydd Cyngor Caerdydd, Heather Joyce: "Mae Caerdydd yn falch iawn o fod yn ganolbwynt i ddigwyddiad mor fawr, ac rwy'n edrych ymlaen at weld pobl yn dod yma i ddangos eu cefnogaeth i'r athletwyr Paralympaidd fydd yn cystadlu."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol