Protest yn erbyn newidiadau i Ysbyty Llwynhelyg
- Cyhoeddwyd
Daeth dros 60 o bobl i brotestio y tu allan i Ysbyty Llwynhelyg, Hwlffordd, ddydd Mercher yn erbyn bwriad y Bwrdd Iechyd i ad-drefnu gwasanaethau.
Hon oedd yr ail brotest i Dîm Gweithredu Achub Llwynhelyg ei chynnal.
Cafodd y brotest gyntaf ei chynnal ar Awst 8, ddeuddydd ar ôl i Fwrdd Iechyd Hywel Dda gyhoeddi bod rhaid ad-drefnu gwasanaethau yng Ngheredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro.
Ond dywed protestwyr nad yw pryderon staff a chleifion wedi cael eu hystyried.
Ymgynghoriad cyhoeddus
Mae'r ymgyrchwyr yn dweud eu bod yn bwriadu cynnal gorymdaith ar Fedi 27 a ddaw i ben ym Mae Caerdydd.
Dywed y bwrdd nad yw'r strwythur presennol yn gallu ymdopi gyda phoblogaeth sy'n heneiddio a phrinder meddygon.
Mae'r Bwrdd yn son am ddarparu gwasanaethau mwy arbenigol yn Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin ar gyfer babanod newydd-anedig.
Byddai hynny'n golygu cau'r uned bresennol yn Llwynhelyg, ond byddai uned famolaeth llai arbenigol yn parhau.
Dywedodd llefarydd ar ran y Bwrdd eu bod yn hefyd ofni na fyddan nhw'n gallu ymdopi a chadw safonau uchel proffesiynol heb ganoli gwasanaethau fel unedau damweiniau, gofal canser a llawdriniaeth arbenigol.
Ychwanegodd y bwrdd eu bod wedi gwrando ar bryderon lleol wrth baratoi'r ddogfen, dolen allanol.
Opsiwn arall fyddai lleoli'r uned newydd-anedig arbenigol yn Llwynhelyg ond cau'r uned bresennol yng Nghaerfyrddin.
Mae ymgynghoriad cyhoeddus 12 wythnos wedi cychwyn a daw i ben ar Hydref 29 2012.
Dim risg
Yn ystod yr wythnosau nesaf mae cyfres o gyfarfodydd cyhoeddus i'w cynnal o fewn ardal y bwrdd i holi cwestiynau i'r bwrdd iechyd.
Bydd y cyfarfod cyntaf ym Mharc y Scarlets ar Fedi 4 (7pm-9pm); yr ail ar Fedi 5 yng Nghanolfan y Morlan Aberystwyth (7pm-9pm) a'r trydydd ar Fedi 20 yn Ysgol Syr Thomas Picton, Hwlffordd.
Dywedodd llefarydd ar ran y bwrdd "na fyddai'r Bwrdd yn cymryd unrhyw risg gyda diogelwch ein plant na babanod".
"Ond ar hyn o bryd, does yr un o'n Unedau Gofal Arbennig Babanod yn cyd-fynd yn llwyr gyda chanllawiau cenedlaethol," meddai.
"Mae angen un uned ar gyfer ardal Bwrdd Iechyd Hywel Da fyddai'n cael ei gefnogi gan Rwydwaith Babanod Newydd-anedig Cymru."
Ar hyn o bryd byddai mamau a babanod sydd angen y gofal mwyaf arbenigol yn gorfod mynd i Ysbyty Singleton yn Abertawe.
Byddai hynny'n golygu taith o tua dwy awr a hanner i drigolion gogledd Ceredigion.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Rhagfyr 2011
- Cyhoeddwyd20 Rhagfyr 2011
- Cyhoeddwyd21 Rhagfyr 2011