Cynnydd brawychus mewn lladradau fferm yn ôl undeb

  • Cyhoeddwyd
beic gyriant pedair olwynFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Un o'r eitemau sy'n cael ei dargedu gan ladron yw beic gyriant pedair olwyn

Mae Undeb Amaethwyr Cymru yn rhybuddio am "gynnydd brawychus" yn nifer y troseddau yng nghefn gwlad de ddwyrain Cymru.

Daw'r rhybudd ar ôl i 21 o ddefaid magu gael eu dwyn o fferm ym Mrynbuga.

Dywedodd cwmni ysiriant NFU Mutual yn ddiweddar bod 'na gynnydd mewn troseddau gwledig ar draws Cymru.

Roedd cyfanswm yr achosion ar draws Cymru yn £2.3 miliwn yn 2011.

Flwyddyn yn gynharach roedd y ffigwr yn £1.7 miliwn, cynnydd o 30%.

Disgrifiad,

Elin Gwilym yn holi Brian Walters o Undeb Amaethwyr Cymru.

Amgylchiadau economaidd anodd a chynnydd mewn prisiau nwyddau sy'n cael y bai.

Profiad personol

Ymhlith yr eitemau sy'n cael eu dwyn y mae offer, disel, cerbydau, olew a metel.

Ond mae'r undebau amaethyddol yn dweud eu bod yn bryderus am y technegau soffistigedig sy'n cael ei ddefnyddio i ddwyn da byw.

Wedi cael profiad o ladrad mae Steve Powell, o Gaerffili, nawr yn defnyddio cynhwysydd metel i gadw ei feic cwad ac offer.

"Doedd y beic ddim wedi bod acw fwy na 48 awr pan gafodd ei ddwyn," meddai.

"Mae'n bryder cyson bob nos pan mae car yn parcio tu allan, dwi allan o'r gwely ac yn y ffenest.

"Rydym yn gweithio oriau hir ac mae hyn o hyd ar eich meddwl."

Dywedodd Heddlu Gwent bod gangiau yn crwydro'r ardaloedd gwledig yn chwilio am gyfleoedd/

"Mae 'na enghreifftiau pan mae gangiau yn targedu ffermydd ond hefyd mae 'na rai sy'n chwilio am gyfle i gymryd beth bynnag sydd ar gael," meddai'r Arolygydd Andy O'Keefe a sefydlodd Farm Watch.

"Mae 'na system yn bodoli lle mae modd i ni anfon negeseuon i ffermwyr, gallwn ei ddefnyddio i nodi lladrad neu unrhyw un amheus yn lleol.

"Mae'r ffermwyr hefyd yn gallu cysylltu gyda ni hefyd."

Dywedodd heddluoedd ar draws Cymru eu bod wedi cynyddu plismona yn y cymunedau gwledig.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol