Coleman yn enwi ei garfan

  • Cyhoeddwyd
Chris Coleman

Mae rheolwr tîm pêl-droed Cymru, Chris Coleman, wedi cyhoeddi ei garfan ar gyfer gemau rhagbrofol Cwpan y Byd 2014.

Mae dau enw newydd yn y garfan, sef yr amddiffynwr Joel Lynch o glwb Huddersfield Town a Jonathan Williams, chwaraewr canol cae Crystal Palace.

Oherwydd anaf tymor hir, nid yw'r golwr Wayne Hennessey wedi ei enwi, na chwaith David Vaughan o Sunderland na Joe Ledley o Celtic.

Ond mae James Collins o West Ham yn dychwelyd i'r garfan ar ôl methu'r golled yn erbyn Bosnia-Hercegovina er fod ganddo yntau hefyd anaf i gesail ei forddwyd.

Bydd Cymru'n croesawu Gwlad Belg ar Fedi 7 cyn teithio i wynebu Serbia yn Belgrade ar Fedi 11.

Y garfan yn llawn :-

Golgeidwaid -

Jason Brown - Aberdeen

Boaz Myhill - West Bromwich Albion

Lewis Price - Crystal Palace

Amddiffynwyr -

Darcy Blake - Crystal Palace

James Collins - West Ham United

Chris Gunter - Reading

Joel Lynch - Huddersfield Town

Adam Matthews - Celtic

Sam Ricketts - Bolton Wanderers

Neil Taylor - Abertawe

Ashley Williams - Abertawe

Canol cae -

Joe Allen - Lerpwl

Andrew Crofts - Brighton & Hove Albion

David Edwards - Wolverhampton Wanderers

Andy King - Caerlŷr

Aaron Ramsey - Arsenal

Jonathan Williams - Crystal Palace

Blaenwyr -

Gareth Bale - Tottenham Hotspur

Craig Bellamy - Caerdydd

Simon Church - Reading

Steve Morison - Norwich City

Hal Robson-Kanu - Reading

Sam Vokes - Burnley

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol