Medalau arian i seiclwr a nofwraig yn y Gemau Paralympaidd

  • Cyhoeddwyd
Mark ColbourneFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Ar wib: Mark Colbourne yn ystod y ras

Mae'r seiclwr 43 oed o Gymru, Mark Colbourne, wedi sicrhau medal gyntaf Prydain yn y Gemau Paralympaidd.

Enillodd y dyn o Dredegar fedal arian yn y Velodrome yn y ras C1-2-3 yn erbyn y cloc.

Doedd ei amser, 1 munud 8.471 o eiliadau, ddim yn ddigon i sicrhau medal aur wrth i Li Zhang Yu o China gofnodi record byd o 1 munud 5.021 o eiliadau.

Tobias Graf o'r Almaen ddaeth yn drydydd ac roedd y Prydeiniwr Darren Kenny yn bedwerydd gydag amser o 1 munud 10.203 eiliad.

Mark ColbourneFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Hon oedd medal gyntaf Prydain

"Dwi wedi gweithio am wyth mis ar gyfer hyn," meddai Colbourne ar ôl y ras.

"Rhaid diolch yn fawr i'r hyfforddwyr am sicrhau fy mod ar fy ngorau.

"Roeddwn yn canolbwyntio ar y llinell ddu a dwi wedi gwneud hyn ganwaith wrth hyfforddi.

"Wnes i ddim clywed y dorf tan y drydedd lap, tan i mi ddechrau ymlacio."

Roedd wedi cynrychioli Cymru mewn pêl-foli mewn tair pencampwriaeth Brydeinig ond dair blynedd yn ôl roedd yn gorwedd mewn ysbyty yng Nghaerdydd ar ôl torri ei gefn mewn damwain baragleidio.

Yn y ras ddydd Iau roedd Richard Waddon o Brydain yn nawfed wrth rasio mewn 1 munud 11.394 eiliad.

Pwll nofio

Ac roedd mwy o lwyddiant i ddod i Gymry nos Iau.

Nyree KindredFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dyma oedd 10fed medal Baralympaidd Nyree Kindred

Cafodd Nyree Kindred fedal Arian hefyd a hynny yn y pwll.

Mae'r nofwraig o'r Porth yn Y Rhondda bellach wedi ennill 10 medal Baralympaidd.

Yn y rownd derfynol nos Iau Lu Dong o China gafodd yr aur gan dorri record Baralympaidd y byd yn y 100m dull cefn S6, wrth orffen mewn 1 munud 24.71 eiliad gyda Kindred yn ail mewn 1 munud 26.23 eiliad.

Fore Iau roedd y Gymraes wedi llwyddo i ennill ei rhagras yn gyfforddus, gydag amser o 1 munud 27.96 eiliad.

Mae hi'n un o aelodau mwya' profiadol o dîm Prydain gan gynrychioli Prydain mewn pedwar o Gemau Paralympaidd.