Diwrnod Cyntaf: Manylion y Cymry yn y Gemau Paralympaidd

  • Cyhoeddwyd

Dydd Iau ydi diwrnod cyntaf y Gemau Paralympaidd yn Llundain 2012 ac mae nifer o Gymry yn cystadlu mewn amryw o gampau ar y diwrnod cyntaf.

Mae BBC Cymru yn dod â'r newyddion diweddara i chi o'r campau.

SEICLO:

Daeth medal gyntaf y Cymry a Phrydain yn y Velodrome wrth i Mark Colbourne ennill medal arian. Roedd yn cystadlu yn y C 1-2-3 ras gilomedr yn erbyn y cloc. Li Zhang Yu o China enillodd yr aur gydag amser record byd o 1 munud 05.021 eiliad a Tobias Graf o'r Almaen enillodd yr efydd. Doedd amser Colbourne, 1 munud 8.471 eiliad, ddim yn ddigon i gipio'r aur.

NOFIO:

Mae Nyree Kindred wedi ennill medal arian yn y pwll nofio. Erbyn hyn mae ganddi 10 ddeg medal Baralympaidd. Yn y rownd derfynol nos Iau Lu Dong o China gafodd yr aur gan dorri record Baralympaidd y byd yn y 100m dull cefn S6, wrth orffen mewn 1 munud 24.71 eiliad gyda Nyree yn ail mewn 1 munud 26.23 eiliad.

Fore Iau roedd y Gymraes wedi llwyddo i ennill ei rhagras yn gyfforddus , gydag amser o 1 munud 27.96 eiliad. Mae hi'n un o aelodau mwya' profiadol o dîm Prydain gan gynrychioli Prydain mewn pedwar o Gemau Paralympaidd.

SAETHYDDIAETH:

Wedi dod yn bumed yn Beijing yn 2008 yn ei gemau cyntaf roedd Pippa Britton yn gobeithio gwneud yn well wrth gystadlu yn y rownd cyfansawdd agored. Ond methodd a gorffen yn y pedwar ucha' i sicrhau lle yn y chwarteri ddydd Sul. Ond fe fydd ganddi rownd cymhwyso arall ddydd Gwener.

TENIS BWRDD:

Mae 'na bump o Gymru yn nhîm Paralympaidd Prydain o 38 o chwaraewyr, Rob Davies, Paul Davies, Sara Head, Scott Robertson a Paul Karabardak. Fe wnaeth Head drechu Hyun Ja Choi o Dde Corea 3-2 yn gêm gyntaf ei grŵp W3. Colli wnaeth Robertson 3-1 i Ningning Cao o China yn ei rownd agoriadol o yn y dosbarth M5.

PÊL-FASGED CADAIR OLWYN:

Roedd y Gymraes Clare Strange yn nhîm Prydain. Roedd Prydain yn herio'r Iseldiroedd yn gêm gyntaf y grwp wnaeth golli o 62-35.

PÊL-FOLI EISTEDD:

Roedd tîm dynion Prydain yn cystadlu ar y diwrnod cyntaf. Mae'r tîm yn cynnwys dau o Gymru, James Roberts a Sam Scott. Roedd Prydain yn herio Rwsia. Ond colli oedd hanes Prydain.

Hefyd gan y BBC