Pryder i dîm pêl-droed Cymru wedi anaf coes i Craig Bellamy

  • Cyhoeddwyd
Craig BellamyFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Mae Craig Bellamy wedi cael anaf i'w goes sy'n waeth na'r disgwyl gwreiddiol

Mae 'na amheuaeth a fydd Craig Bellamy ar gael ar gyfer gemau cyntaf Cymru yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd 2014.

Mae rheolwr Caerdydd Malky Mackay wedi dweud na fydd yn chwarae yn erbyn Gwlad Belg a Serbia oherwydd anaf i'w goes.

Doedd Bellamy ddim yn rhan o garfan Caerdydd ddydd Sadwrn yn erbyn Bristol City.

Dywedodd y clwb bod yr anaf yn waeth na'r disgwyl.

"Mae ganddo anaf i'w goes ac fe fydd allan o'r gêm am gwpl o wythnosau," meddai Mackay.

Fe fyddai ei absenoldeb o'r tîm cenedlaethol yn ergyd i reolwr Cymru, Chris Coleman.

Fe fydd Cymru yn herio Gwlad Belg yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar Fedi 7 cyn teithio i Serbia i'w wynebu yn Stadiwm Novi Sad yn Karadjordje ar Fedi 11.

Y tair gwlad arall yn yr un grŵp â Chymru yw Yr Alban, Croatia a Macedonia.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol