Mardi Gras: Yr orymdaith gyntaf

  • Cyhoeddwyd
Roedd yr orymdaith yn ddechrau diwrnod o ddathliadau
Disgrifiad o’r llun,

Roedd yr orymdaith yn ddechrau diwrnod o ddathliadau

Cafodd Gorymdaith Mardi Gras Cymru ei chynnal ddydd Sadwrn fel dathliad i gymunedau lesbiaid, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol (LHDTh) Cymru.

Roedd yr orymdaith ei hun yn ddechrau diwrnod o ddathliadau, yn cynnwys digwyddiad yng Nghae Cooper a ddechreuodd am 12:30pm.

Cafodd y digwyddiad gefnogaeth y pedair prif blaid wleidyddol yng Nghymru, a chan lywydd y Cynulliad Cenedlaethol.

'Croesawgar'

Thema Gŵyl Mardi Gras eleni fydd "gwelededd yn cynyddu dealltwriaeth ac yn lleihau ofn", a dywedodd cadeirydd Mardi Gras Cymru, Richard Newton:

"Mae'r thema yn allweddol er mwyn sicrhau bod y Mardi Gras yn cyrraedd ei brif nod elusennol, sef gostwng nifer y troseddau yn ymwneud â chasineb a hybu cydlynu cymunedol.

"Rydym yn awyddus, wrth drefnu'r orymdaith agoriadol gyntaf drwy ganol Caerdydd i gaeau Cooper, y byddwn yn creu awyrgylch groesawgar, awyrgylch ble gall aelodau o'r gymuned LHDTh fod yn nhw'u hunain.

"Ein gobaith yw creu awyrgylch ble gall pobl deimlo balchder o Gymru fel cenedl aml-rywiol."

'Parti'

Roedd y gefnogaeth yn gryf gan wleidyddion o bob plaid. Dywedodd Jane Hutt (AC Llafur): "Dyma esiampl wych o sut y gallwn ddod â phobl at ei gilydd i gael gwared ar wahaniaethu."

Yn ôl Nick Ramsay (AC Ceidwadol): "Rwy'n siŵr y bydd ychwanegu'r orymdaith o ganol y ddinas i Gae Cooper yn denu llawer mwy o bobl i'r digwyddiad lliwgar a llachar yma."

"Mae Mardi Gras yn ddiwrnod i ddathlu ac i gael parti," meddai arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood AC.

"Ond mae hefyd yn ymwneud â sefyll ar eich traed a herio geiriau o gasineb lle bynnag y bo'r tarddiad."

Ychwanegodd arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Kirsty Williams AC: "Mae'r Mardi Gras yn gwneud gwaith da i greu cydraddoldeb drwy hybu gwelededd y cymunedau amrywiol yr ydym yn byw ynddynt."

Ymrwymiad

Ar restr mudiad Stonewall o leoedd gorau'r DU i weithio i bobl o'r gymuned LHDTh, roedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhif 20, a dywedodd y llywydd, Rosemary Butler AC:

"Rydw i am fod yn y Mardi Gras i ddangos cefnogaeth barhaus y Cynulliad i'r gymuned LHDTh yng Nghymru, ac i ategu ein hymrwymiad i faterion cydraddoldeb.

"Hefyd mae'n un o'r digwyddiadau mwyaf pleserus a lliwgar yn y brifddinas a byddwn yn annog pawb i ddod draw ac ymuno mewn diwrnod gwych o ddathlu."

Fe wnaeth yr orymdaith ddechrau ar ei thaith ar hyd Dumballs Road, Heol y Santes Fair a'r Stryd Fawr fore Sadwrn, cyn cyrraedd Cae Cooper am 12:30pm ar gyfer y prif ddigwyddiad lle bu Mrs Butler yn siarad ar y prif lwyfan.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol