Bwrdd Iechyd yn cwtogi ar wariant goramser
- Cyhoeddwyd
Mae'n rhaid i fwrdd iechyd dorri'n ôl ar wariant goramser a staff asiantaeth ar ôl gorwario bron i £7.5 miliwn yn ystod pedwar mis cyntaf y flwyddyn ariannol bresennol.
Dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg bod y sefyllfa ariannol bresennol "yn achos pryder gwirioneddol".
Mae gan y bwrdd gyllid o £1.2 biliwn ond mae angen gwneud arbedion eleni o £45 miliwn.
Mewn adroddiad i'r bwrdd, mae'n nodi torri'n ôl ar wariant goramser a staff asiantaeth.
Mae hynny wedi lleihau'r costau misol, gyda'r costau ar gyfer mis Gorffennaf yn £1.5 miliwn.
Dywedodd y cyfarwyddwr cyllid, Eifion Williams, bod y bwrdd iechyd yn wynebu gwneud arbedion yn wyneb derbyn dim ceiniog ychwanegol am yr ail flwyddyn yn olynol gan Lywodraeth Cymru.
Her
"Mae gan y bwrdd her i gychwyn y flwyddyn ariannol gyda gorwariant o £7.468 miliwn hyd ddiwedd mis Gorffennaf.
"Roedd y gorwariant ym mis Gorffennaf yn £1.53 miliwn, gostyngiad misol yn chwarter cyntaf y flwyddyn."
Dywedodd bod y bwrdd wedi wynebu lefel uchel o ofal annisgwyl a gwasanaeth trawma ar ddechrau'r flwyddyn, ac er bod hynny wedi lleihau, mae'r effaith ariannol "yn anodd" i'w adfer.
Dywedodd hefyd y bydd cyfleoedd pellach i wneud arbedion a bod angen canfod ffyrdd i sicrhau llai o orwariant erbyn diwedd y flwyddyn.
"Bydd rhaid i ni barhau i wneud arbedion am weddill y flwyddyn ariannol," meddai.
Ac fe ychwanegodd, Prif Weithredwr y bwrdd, Paul Roberts, bod y sefyllfa "yn fater o wir bryder".