Un o'r cewri rygbi yn sôn am ei frwydr fwya' - ar ôl gorffen chwarae rygbi

  • Cyhoeddwyd
Delme ThomasFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Delme Thomas: Ddim yn disgwyl y byddai rhoi'r gorau i rygbi mor anodd.

Ar ôl rhoi'r gorau i rygbi yn y 1970au roedd un o gewri'r gêm yn wynebu ei frwydr fwya', iselder.

Oddi ar y cae mae Delme Thomas yn dawel, mwyn a llawn hiwmor cynnes ond ar y cae roedd yn galed ac yn benderfynol.

Yn Hydref fe fydd y blaenwr chwedlonol yn 70 oed a'r un mis mae cefnogwyr y Scarlets yn nodi 40 mlynedd ers iddo arwain Llanelli mewn brwydr arall cyn trechu Seland Newydd o 9-3 ar Barc y Strade.

Ar raglen ddogfen nos Sul mae'n datgelu iddo dreulio cyfnod yn yr ysbyty wedi iddo ymddeol o chwarae rygbi.

Cafodd ei fagu ym mhentre' Bancyfelin yn Sir Gaerfyrddin, pentre a gynhyrchiodd sêr rygbi eraill, Mike Phillips a Jonathan Davies.

'Isel iawn'

Roedd y cyfnod ar ôl ymddeol, meddai, yn anodd iawn a bu'n rhaid iddo adael ei waith gyda'r Bwrdd Trydan am gyfnod.

Disgrifiad o’r llun,

Delme Thomas yn dathlu curo'r Crysau Duon yn 1972

"Dechre'r 1980au es i drwy gyfnod gwael a mynd i deimlo'n isel iawn," meddai. "Ro'n i bant o'r gwaith ambytu chwe mis.

"Fues i yn Ysbyty Glangwili ambytu dau fis .. o'n i ffaelu gweld bod gole tu draw i'r twnnel.

"Ro'n i wedi trafaelu cymaint wrth whare rygbi ac yna ar unwaith roedd popeth wedi dod i ben."

Dywedodd fod y profiad yn ddirdynnol.

Carafan

"Ro'n i'n gweld ishe'r gêm a gweld ishe ffrindie.

"Do'dd pethe ddim yr un peth o gwbwl pan o'n i'n whare - siwrne oeddech chi'n bennu whare roeddech chi ar ben eich hunan."

Dywedodd mai'r peth gorau wnaeth e oedd prynu carafan yn Llanrhath neu Amroth 30 mlynedd yn ôl.

Roedd yn gyfle heb ei ail i wneud lot o ffrindiau - ac ymlacio.

Mae'r camerâu wedi bod yn ei ddilyn yn ei gartre' gyda'i wraig Bethan a'i deulu, ffrindiau agos ym Mancyfelin, cyd-chwaraewyr buddugol yn erbyn y Crysau Duon ac mewn llefydd pwysig eraill yn ei fywyd fel hen gae'r Strade, Capel Annibynwyr Bancyfelin a'r garafan.

Delme Thomas: Brenin y Strade, S4C, nos Sul, 9pm.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol