S4C yn dathlu 30 mlynedd o ddarlledu
- Cyhoeddwyd
Bydd drama ddogfen ar frwydr Gwynfor Evans i sicrhau sianel Gymraeg yn rhan o arlwy'r Hydref S4C wrth i'r sianel ddathlu ei phen-blwydd yn 30 oed.
Nôl yn 1980 fe wnaeth Mr Evans, cyn lywydd Plaid Cymru, fygwth ymprydio hyd farwolaeth oni bai fod y Llywodraeth Geidwadol yn sefydlu sianel Gymraeg.
Mae Gwynfor, a ysgrifenwyd gan yr Archdderwydd T James Jones, yn ail-greu digwyddiadau'r cyfnod, gyda'r actor Aneirin Hughes yn portreadu Gwynfor.
Ym mis Medi 1979, fe wnaeth Llywodraeth Geidwadol newydd Margaret Thatcher dro pedol trwy gyhoeddi na fydden nhw'n sefydlu sianel deledu Gymraeg er gwaethaf addewid i wneud hynny yn eu maniffesto.
Arweiniodd hyn at benderfyniad Mr Evans i gyhoeddi ympryd hyd farwolaeth ac o fewn 12 mis, roedd y Llywodraeth wedi cyhoeddi tro pedol arall ac wedi penderfynu sefydlu gwasanaeth teledu S4C.
Portreadau
Dywedodd y cynhyrchydd Lona Llewelyn Davies, "Mae'n bortread cynnes, sensitif o ddyn dewr a wnaeth benderfyniad ysgytwol a allai fod wedi arwain at ei farwolaeth."
Ymhlith y rhai sy'n cymryd rhan mae aelodau amlwg o Blaid Cymru ar y pryd, yr Arglwydd Dafydd Wigley a Peter Hughes Griffiths, y sylwebydd cyfryngau, Euryn Ogwen, cyn brif weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol, Emyr Jenkins, mab Gwynfor Evans, Guto Prys ap Gwynfor, ei ferch Meinir Ffransis, a'i gŵr hithau, yr ymgyrchydd iaith blaenllaw Ffred Ffransis.
Hefyd eleni bydd y Sianel yn darlleddu 'portread dadlennol' o gyn reolwr Cymru Gary Speed gan ei ffrind John Hartson.
Mewn datganiad dywedodd S4C mai'r ffilm ddogfen hon "fydd y portread teledu manwl cyntaf ohono i'w ddarlledu gyda chydweithrediad llawn y teulu."
'Cyfnod pwysig'
Hefyd fel rhan o'r arlwy, bydd Plant y Sianel yn dychwelyd gyda rhaglen arbennig yn rhoi hanes cenhedlaeth o Gymry a gafodd eu geni 30 mlynedd yn ôl, yr un pryd ag S4C.
Dywedodd Dafydd Rhys, Cyfarwyddwr Cynnwys S4C, "Dwi'n hynod falch o gael cyhoeddi ein hamserlen ar gyfer yr hydref. Mae'n gyfnod pwysig yn hanes y Sianel wrth iddi ddathlu ei phen-blwydd yn 30 oed ac mae'n addas felly bod rhaglenni i ddathlu yn flaenllaw yn yr amserlen.
"Dyheadau'r gwylwyr sydd bwysicaf wrth ystyried cynnwys ein gwasanaeth o ddydd i ddydd, o fis i fis ac o flwyddyn i flwyddyn.
Cyhoeddodd y Sianel hefyd eu bod yn cynnig gwasanaeth newydd 'arloesol' i blant.
Dywedodd llefarydd: "Am y tro cyntaf ym myd darlledu plant ym Mhrydain, bydd modd i bobl ifanc wylio cyfres gwis ar deledu ond hefyd chwarae'r gemau ar y cyd ar ail sgrin yn eu cartrefi.
Bydd Y Lifft yn cael ei darlledu bob dydd Mercher am 5.40pm.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd4 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd8 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd10 Ebrill 2012