Disgwyl penderfyniad ar barciau solar

  • Cyhoeddwyd
Workers installing panels at a solar parkFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Byddai nifer o amodau'n cael eu gosod ar y ddau barc solar os fyddan nhw'n cael eu cymeradwyo

Mae swyddogion cynllunio Sir Benfro yn argymell cymeradwyo ceisiadau am ddau barc solar o fewn y sir.

Bydd cynghorwyr yn ystyried y ddau gais, un ym Mathru ger Hwlffordd a'r llall ger Dinbych-y-pysgod, ddydd Mawrth.

Byddai cais Mathru yn gweld 35,000 o gelloedd PV (photovoltaic) yn cael eu gosod, ac yn y llall yn St Florence, tua 20,680 o gelloedd.

Mae adroddiadau swyddogion yn argymell cymeradwyo'r ddau gais, ond gyda nifer o amodau gan gynnwys cyfyngiad amser o 25 mlynedd.

Ymhlith yr amodau eraill ar gais Mathru, mae "dadgomisiynu'r safle os fydd yn segur am fwy na chwe mis".

Dim cysylltiad

Byddai'r datblygiad yn digwydd ar 17 hectar o dir agored yng nghefn gwlad.

Fe fyddai'r 35,000 o gelloedd yn gallu cynhyrchu 7.5 MegaWatt (MW) o ynni ar eu cryfaf, ac yn cael eu gosod mewn rhesi saith troedfedd uwchben y ddaear.

Mae'r adroddiad yn ychwanegu: "Nid oes cysylltiad trydan o'r safle i'r grid cenedlaethol wedi cael ei gynnwys o fewn y cais cynllunio.

"Dywed yr ymgeiswyr y bydd y mater yma'n cael ei ddatrys naill ai drwy gais cynllunio llawn pellach, neu drwy hysbysiad ffurfiol i'r awdurdod cynllunio lleol o law un o'r darparwyr trydan."

Mae'r amodau sy'n cael eu hargymell ar gyfer safle St Florence yn cynnwys "adfer y safle wedi 25 mlynedd", a hefyd "adfer y safle os fydd yn segur am dros chwe mis".

Mae'r datblygiad ar dir St Florence am greu fferm solar dros ardal o 10.7 hectar i ddarparu'r gallu i gynhyrchu 4.96 MW o 20,680 o gelloedd PV sefydlog.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol