Cwmni am godi fferm solar
- Cyhoeddwyd
Mae cwmni o Loegr yn y broses o lunio cais cynllunio fferm solar enfawr yn y sir Gaerfyrddin.
Credir mai hwn fyddai'r prosiect mwyaf o'i fath ym Mhrydain hyd yn hyn.
Bwriad cwmni Inazin Solar o Sir Gaerloyw yw sefydlu fferm solar 40Mw ger maes awyr Penbre, ger Llanelli.
Dywedodd llefarydd y byddai'r cynllun yn cynhyrchu digon o ynni i gyflenwi 12,000 o dai.
Paneli solar
Y bwriad fyddai rhentu'r tir o'r cyngor sir.
"Ac eithrio Cernyw ac Ynys Wyth dyma'r ardal orau o ran nifer o oriau'r haul y dydd ac o safbwynt cynhyrchu ynni," meddai llefarydd ar ran y cwmni.
Dywed y cwmni eu bod yn edrych am dir gwastad a bod y safle ym Mhenbre yn un da.
Ychwanegodd y llefarydd y byddant â gwell syniad ar ôl y Pasg ynglŷn â phryd y byddant yn gwneud cais cynllunio ffurfiol i Gyngor Sir Caerfyrddin.
Dywed y cwmni eu bod yn ystyried tir i'r gogledd a'r de o'r maes awyr.
Y llynedd fe wnaeth cyngor sir Caerfyrddin roi caniatâd cynllunio ar gyfer fferm solar cynta'r sir.
Bydd y fferm 3 Mega Watt ar safle hen lolfa Cynheidre yn cynnwys hyd at 10,000 o baneli solar.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Mawrth 2012