Michael Gove i gael ei holi gan aelodau seneddol

  • Cyhoeddwyd
Disgyblion yn sefyll arholiadauFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Mae Leighton Andrews yn galw am adolygiad i ganlyniadau TGAU Saesneg

Fe fydd Gweinidog Addysg San Steffan Michael Gove yn wynebu cwestiynau gan aelodau seneddol ar lawr Tŷ'r Cyffredin ddydd Mercher yn y cam diweddaraf yn y ffrae ynglyn â chanlyniadau TGAU.

Ddoe penderfynodd Gweinidog Addysg Cymru Leighton Andrews orchymyn ailraddio canlyniadau TGAU Saesneg yng Nghymru.

Mae hynny yn gwrthgyferbynnu â'r sefyllfa yn Lloegr, lle mae Mr Gove wedi gwrthod ymyrryd.

Daw hyn yn dilyn ffrae bod myfyrwyr wedi derbyn graddau is na'r disgwyl pan gafodd canlyniadau TGAU eu cyhoeddi fis diwethaf.

Bu gostyngiad yn nifer y disgyblion wnaeth lwyddo i ennill A*-C TGAU Saesneg yng Nghymru, o 61.3% yn 2011 i 57.4% eleni.

Ddydd Llun roedd Mr Andrews wedi galw ar Cyd Bwyllgor Addysg Cymru i ailraddio ac yna wedi rhybuddio ei fod yn barod i orfodi pe bai angen.

'Hyderus iawn'

Dywedodd Mr Andrews wrth BBC Cymru bore Mawrth y byddai'n rhoi 'amser rhesymol' i CBAC ymateb i'w gais ond y byddai'n eu gorfodi i weithredu petai angen.

Erbyn diwedd dydd Mawrth cyhoeddodd ei fod yn rhoi cyfarwyddwyd i'r corff arholi i ailraddio.

Dywedodd Mr Andrews wrth y BBC: "Rydym yn hyderus iawn yn yr hyn rydym wedi ei wneud.

"Yn ymarferol rwy'n credu y bydd cannoedd o fyfyrwyr yng Nghymru yn cael graddau uwch, ac y byddant yn awr yn cael graddau mwy tebyg i'r hyn yr oeddynt yn disgwyl ei gael."

"Does gennym ni ddim pwerau dros beth sy'n digwydd yn Lloegr. Ond fe allai Ofqual orfod amddiffyn eu methodoleg yn y llysoedd."

Yn ôl CBAC, mae angen ceisio cytundeb rhwng y rheoleiddwyr yng Nghymru a Lloegr.

Dywedodd llefarydd: "Rydym mewn sefyllfa anodd ac annisgwyl, gydag oblygiadau ar gyfer ein holl ymgeiswyr yng Nghymru a Lloegr.

"Yn yr haf, gweithredodd CBAC yn ôl cyfarwyddyd gan ein rheoleiddwyr ar y cyd i ostwng ein dyfarniadau TGAU Saesneg Iaith ar Radd C , er mwyn sicrhau "canlyniadau cymaradwy," meddai'r llefarydd.

"Rydym yn awr mewn sefyllfa ble mae un o'r rheoleiddwyr yn cadarnhau bod y penderfyniad hwn yn gywir, ac un arall yn gofyn i ni ail-raddio, gan ddileu'r cyd-benderfyniad a gymerwyd ynghynt."

'Cael cam'

Dywedodd y llefarydd eu bod yn gofyn i'r rheoleiddwyr "archwilio'r posibilrwydd o gytuno rhyngddynt" a hynny er mwyn "sicrhau ffordd ymlaen rhesymegol a threfnus ar gyfer ein holl ymgeiswyr."

Dywed Mr Andrews fod arolwg gafodd ei gomisiynu ganddo wedi ei berswadio fod rhai cannoedd o fyfyrwyr wedi cael cam.

Mae penderfyniad Mr Andrews i alw am ailraddio yn gwrthgyferbynnu â'r sefyllfa yn Lloegr, lle mae'r Gweinidog Addysg yno wedi gwrthod ymyrryd.

Mae yna gais hefyd wedi ei wneud i Ofqual, y corff sy'n arolygu papurau yn Lloegr, i gymryd camau tebyg i fyfyrwyr sydd wedi eistedd arholiad CBAC yn Lloegr.

Ddydd Mawrth dywedodd Amanda Spielman, Cadeirydd Ofqual, wrth aelodau o Bwyllgor Dethol ar Addysg yn Nhŷ'r Cyffredin fod yna "wahaniaeth clir" ym mherfformiad myfyrwyr o Loegr o'i gymharu â rhai o Gymru a bod hynny yn rhywbeth "anodd i'r Cymry ei dderbyn yn y cyd-destun gwleidyddol."

"Mae yna anhawster gwleidyddol yng Nghymru. Mae yna wahaniaeth clir rhwng perfformiadau myfyrwyr o Loegr o gymharu â rhai o Gymru.

".....yr ensyniad yw nad yw perfformiad myfyrwyr o Gymry yn gwella. Mae hyn yn ganlyniad anodd i'r Cymry i'w dderbyn yn wleidyddol, a dyna beth gafodd ei weld yn digwydd ddoe."