Disgyblion Cymru yn cau'r bwlch â Lloegr o ran A*-A
- Cyhoeddwyd
Mae disgyblion TGAU Cymru yn lleihau'r bwlch gyda'u cyfoedion yn Lloegr o ran A*-A tea bod y bwlch wedi cynyddu o ran y canlyniadau A*-C.
Wrth i filoedd o ddisgyblion dderbyn eu canlyniadau ddydd Iau mae'r nifer sy'n ennill A*-C yn llai ar 65.4% o'i gymharu â 66.5% y llynedd.
Mae'r gwahaniaeth rhwng y rhai sy'n ennill A* neu A yng Nghymru a gweddill y DU wedi lleihau o 3.7% y llynedd i 3.2%.
Mae disgyblion Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon wedi gweld gostyngiad yn nifer y rhai lwyddodd i ennill A*-C, 0.4% o 69.8% i 69.4%.
Mae'r gwahaniaeth rhwng y canlyniadau yng Nghymru a Lloegr a Gogledd Iwerddon o ran graddau A8-C bellach yn 4% o'i gymharu â 3.3%.
Roedd 'na gynnydd o 3% yn nifer y rhai wnaeth sefyll TGAU yng Nghymru o 282,000 i 291,000 er bod 'na ostyngiad yn nifer y rhai oedd yn 16 oed.
Gwella safonau
Mae'r cynnydd yn cael ei weld yn bennaf o ganlyniad i newidiadau i'r cymwysterau Gwyddoniaeth a Saesneg.
Yn ôl y canlyniadau a gafodd eu cyhoeddi gan Gydbwyllgor Addysg Cymru ddydd Iau mae merched yn dal i berfformio yn well na bechgyn, er bod y gwahaniaeth yn lleihau o ran graddau A*/A tra ei fod yn mynd yn fwy o ran y graddau A*-C.
O ran canlyniadau'r Fagloriaeth Gymreig, roedd 'na gynnydd o 3,937 yn nifer wnaeth ei ddilyn.
Llwyddodd 73% i gael diploma o'i gymharu â 67% y llynedd.
Mae gwella safon llythrennedd a rhifedd disgyblion Cymru'n flaenoriaeth i Weinidog Addysg Cymru, Leighton Andrews.
Wrth ymateb i'r canlyniadau ddydd Iau dywedodd Mr Andrews ei fod yn llongyfarch yr holl ddisgyblion ar eu llwyddiant.
"Mae 98.7% o ddisgyblion wedi pasio, 65.4% wedi cael A*-C, sy'n galonogol.
"Ac mae mwy o fyfyrwyr wedi cofrestru ar gyfer y Fagloriaeth Gymreig yn ychwanegol.
"Mae'n brysur sefydlu ei hun fel cymhwyster o werth i ddisgyblion 14-19 oed."
Mae Gyrfa Cymru yn cynghori'r rhai sy'n derbyn eu canlyniadau i edrych ar opsiwn prentisiaid os nad ydyn nhw am barhau yn yr ysgol.
Y llynedd cafodd gwasanaeth Paru Prentisiaethau ei lansio gan Gyrfa Cymru ac ers hynny mae 400 o gyflogwyr wedi cynnig 1,230 o gyfloed i bobl ifanc mewn amryw feysydd, o'r celfyddydau i beirianneg ac adeiladu.
Erbyn hyn mae ysgolion uwchradd yng Nghymru mewn pum band sydd wedi eu seilio ar berfformiad mewn arholiadau a phresenoldeb disgyblion.
Dywed Llywodraeth Cymru eu bod wedi creu'r system fandio i amlygu'r ysgolion hynny sydd angen mwy o gymorth.
Mae bandio yn gosod ysgolion mewn un o bum band yn seiliedig ar 12 ffactor gan gynnwys canlyniadau arholiad, gwelliant, presenoldeb a nifer y disgyblion sy'n derbyn cinio am ddim.
Canfyddiadau arolwg
Bydd yr ysgolion yn cael eu bandio unwaith eto ym mis Rhagfyr.
Felly fe fydd canlyniadau TGAU eleni yn bwysig oherwydd gallai gwahaniaethau bychain olygu bydd ysgol yn symud o un band i un arall.
Yn Lloegr mae Gweinidog Addysg Llywodraeth y DU, Michael Gove, yn ystyried cynlluniau i newid y system arholiadau gan ddychwelyd i arholiadau tebyg i Lefel-O ar gyfer pynciau fel Saesneg, Mathemateg, y Dyniaethau a Gwyddoniaeth.
Mae Mr Andrews wedi gwrthod newidiadau o'r fath o ran Cymru.
Ond mae arolwg o'r system gymwysterau yn cael ei gynnal ar hyn o bryd a bydd y casgliadau yn cael eu cyhoeddi yn ddiweddarach eleni.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Awst 2012
- Cyhoeddwyd23 Awst 2012
- Cyhoeddwyd1 Awst 2012
- Cyhoeddwyd8 Rhagfyr 2011
- Cyhoeddwyd17 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd26 Mehefin 2012
- Cyhoeddwyd21 Mehefin 2012