Serbia 6-1 Cymru

  • Cyhoeddwyd
Cic rydd KolarovFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Cic rydd wych Alexandr Kolarov ddaeth â gôl gyntaf Serbia

Serbia 6-1 Cymru

Roedd rhai wedi dweud cyn y gêm bod angen triphwynt ar Gymru yn barod er mwyn cadw'u gobeithio o gyrraedd Brasil yn 2014 yn fyw.

O ystyried hynny, roedd y dechrau gafodd tîm Chris Coleman yn Novi Sad yn ddim llai nag ofnadwy.

Daeth cyfle i Gymru wedi chwe munud, ond fe beniodd Ashley Williams dros y trawst o chwe llath, a Serbia reolodd yr ugain munud a ddilynodd.

Disgrifiad,

Joe Allen, chwaraewr canol cae Cymru, yn cael ei holi gan Gareth Blainey.

Daeth y gôl gyntaf wedi chwarter awr wedi i Gymru ildio cic rydd ar ymyl eu cwrt cosbi.

Roedd y cynnig gan gefnwr Manchester City, Alexandr Kolarov, yn rhy dda, gan guro Boaz Myhill i gornel y rhwyd.

Amddiffyn llac

Daeth sawl cyfle arall i'r Serbiaid yn syth, a dim ond cyfuniad o lwc ac amddiffyn da a'u rhwystrodd rhag cael un arall.

Ond roedd yr amddiffyn ar fai wrth i Serbia gael yr ail, gyda Kolarov yn creu y tro hwn.

Rhywsut, llwyddodd y cefnwr i fynd heibio i ddau amddiffynnwr, ac er i Myhill arbed ei gynnig, Zoran Tosic, gynt o Manchester United, oedd y cyntaf i ymateb i rwydo'r ail.

Serbia v. Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Ignjovski o Serbia yn herio Joe Allen ac Aaron Ramsey

Ond fe ddaeth gobaith, a gyda hynny hefyd y daeth y gôl gyntaf i Gymru ei sgorio o dan reolaeth Chris Coleman.

Cic rydd i Gymru o bum llath ar hugain y tro hwn, a Gareth Bale yn dangos bod ganddo yntau dalent aruthrol wrth danio ergyd rymus i gornel y rhwyd.

Ond cyn yr egwyl, roedd Serbia wedi adfer y fantais o ddwy gôl.

Unwaith eto roedd bai ar yr amddiffyn. Pan ddaeth y bêl at Filip Djuricic yn y cwrt, fe neidiodd Adam Matthews i'r llawr yn rhy sydyn, gan ganiatáu i Djuricic fynd heibio iddo cyn tanio ergyd i do'r rhwyd i sicrhau bod y tîm cartref 3-1 ar y blaen ar yr egwyl.

Absenoldeb

Gareth Bale oedd yr unig chwaraewr i edrych yn fygythiol i Gymru ond roedd y pwysau yn ormod ar ei 'sgwyddau, a chamgymeriad gan Bale arweiniodd at y bedwaredd gôl i Serbia.

Fe ildiodd y meddiant i Branislav Ivanovic, ac fe redodd cefnwr Chelsea i lawr yr asgell cyn croesi i Dusan Tadic sgorio wedi 55 munud.

Fe fydd Coleman yn dadlau bod absenoldeb rhai chwaraewyr allweddol wedi cael effaith ar ei baratoadau, ond doedd hynny ddim yn esgus am amddiffyn oedd yn amaturaidd ar adegau, ac fe ddaeth gôl arall o gamgymeriad gan y Cymry.

Fe ildion nhw'n meddiant ar ymyl eu cwrt cosbi eu hunain unwaith eto gyda 10 munud yn weddill, ac fe daniodd Ivanovic ei ergyd yn isel i'r rhwyd.

Gyda munud yn weddil roedd noson erchyll Coleman a'i dîm yn gyflawn wrth i Serbia ychwanegu chweched gôl wrth i ergyd Sumejmani wyro oddi ar Chris Gunter a dros ben Myhill i gefn y rhwyd.

Dyma'r tro cyntaf i Gymru ildio chwe gôl mewn gêm ers 1997, ac fe fydd gan Chris Coleman dasg i egluro'r hyn ddigwyddodd wrth i'r cefnogwyr edrych ymlaen yn ddigalon at weddill yr ymgyrch yng Nghwpan y Byd.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol