Bws: 'Hwb i adfywio tref'
- Cyhoeddwyd
Bydd gwasanaeth bws newydd yn cael ei agor yn swyddogol ddydd Iau yn cysylltu canol tref Aberystwyth, y Brifysgol a'r Llyfrgell Genedlaethol.
Bydd y bws 03 yn galw rhwng y dref, y Llyfrgell Genedlaethol, y Brifysgol, Canolfan y Celfyddydau a'r Ganolfan Chwaraeon trwy ffordd gysylltiol newydd, ac fe fydd yn darparu gwasanaeth deirgwaith yr awr.
Cyllidwyd y ffordd newydd, sy'n pontio rhwng cefn y Llyfrgell Genedlaethol a Chanolfan Chwaraeon y Brifysgol, gan grant gwerth £192, 750 oddi wrth Gronfa Adfywiad Ardal Aberystwyth.
Bwriad y ffordd yw hybu'r amgylchedd trwy leihau'r nifer o geir a phwysau traffig ar y campws yn ogystal ag agor llwybr cerdded a beicio newydd.
'Hyrwyddo'i diwylliant '
Dywedodd y Gweinidog dros Adfywio, Huw Lewis AC, a fydd yn lansio'r gwasanaeth: "Mae creu tref fywiog, atyniadol a llewyrchus ar gyfer pobl Aberystwyth yn flaenoriaeth, yn ogystal â sicrhau gwella hygyrchedd.
"Mae Llywodraeth Cymru yn daer yn ei hymroddiad i adfywio canol trefi a bydd y prosiect hwn yn ei gwneud yn haws i drigolion y dref ac ymwelwyr i deithio i leoliadau allweddol. Bydd hefyd yn cefnogi'r dref wrth iddi hyrwyddo'i diwylliant amrywiol."
Esboniodd Is-ganghellor Prifysgol Aberystwyth, yr Athro April McMahon: "Yr ydym wrth ein bodd gyda'r fenter newydd hon rhwng y Brifysgol a'r Llyfrgell.
"Bydd yn darparu gwell gwasanaeth bws i fyfyrwyr, staff a'r cyhoedd, a hefyd yn darparu amgylchedd mwy diogel.
"Carwn hefyd feddwl ei fod yn gam pwysig tuag at ein nod o annog pobl leol i wneud gwell defnydd o'r hyn sydd gennym i'w gynnig."
Cylchu
Yn ystod y tymor mi fydd y gwasanaeth newydd yn cylchu rhwng y dref, y Llyfrgell Genedlaethol a Champws Penglais bob 20 munud rhwng 07:40 ac 19:40, o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Mae'r gwasanaeth hwyrnos rhwng 20:20 a 22:20 yn rhedeg bob awr, ac mae'r bws diwethaf yn gadael Canolfan y Celfyddydau am 22:33.
Ar y penwythnosau a thu allan i ddyddiau'r tymor, darperir gwasanaeth bob awr rhwng 07:45 a 22:45.
C
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd18 Mehefin 2012
- Cyhoeddwyd8 Mai 2012