Croeso i gynllun i wella gofal diwedd oes i gleifion sy'n marw
- Cyhoeddwyd
Mae strategaeth Llywodraeth Cymru i wella gofal diwedd oes i gleifion sy'n marw wedi cael croeso gan elusennau.
Bydd ymgynghori ar gynllun sy'n dweud y dylai cleifion gael gofal a medru marw yn y cartref os mai dyna eu dymuniad.
Hefyd "dylid rhoi cefnogaeth 24/7 i bawb sy'n cyrraedd cyfnod olaf terfynol eu salwch".
Mae elusennau gofal canser Marie Curie a Macmillan wedi croesawu'r cynllun, ynghyd ag Age Cymru, sydd yn dweud y dylai "marwolaeth fod yn broses urddasol".
Mae ymgynghoriad 12 wythnos ar y strategaeth.
'Pawb yn cael eu heffeithio'
Dywedodd y Gweinidog Iechyd Lesley Griffiths: "Mae pawb yn cael eu heffeithio gan farwolaeth aelod o'r teulu neu gyfaill sydd wedi bod trwy gyfnod olaf terfynol salwch.
"Dwi eisiau, cyn belled â phosib, i leihau'r straen ar y claf a'r teulu.
"Nid yn unig y mae angen i bobl gael eu hasesu'n gyflym a chael y driniaeth orau posib, ond hefyd mae angen cefnogaeth barhaus a gwybodaeth am ddewisiadau pan nad yw triniaeth yn effeithiol rhagor.
"Dwi am i gleifion gael elfen o reolaeth ar ddiwedd eu bywydau".
Dywedodd y Farwnes Finlay o Landaf, Athro meddygaeth liniarol ym Mhrifysgol Caerdydd ac Ymddiriedolaeth GIG Felindre, bod y cynllun yn dangos "ymrwymiad dwfn" i wella gofal diwedd oes.
Ychwanegodd: "Mae modd gwneud mwy i sicrhau gofal diwedd oes o ansawdd a sicrhau bod gofal lliniarol ar gael yn hawdd ym mhobman.."
'Proses urddasol'
Yn ôl Amy Clifton, cynghorydd polisi Age Cymru: "Dylai marwolaeth fod yn broses urddasol ac mae Age Cymru yn croesawu'r strategaeth".
Dywedodd bod pobol hŷn yn profi mynediad anghyfartal i ofal lliniarol arbenigol a bod "angen gweithredu ar frys i fynd i'r afael â hyn".
Ychwanegodd Susan Morris, rheolwr cyffredinol Macmillan yng Nghymru: "Rydym yn croesawu'r cynllun hwn.
"Mae Macmillan wedi buddsoddi'n sylweddol i wella gofal diwedd oes yng Nghymru, gan gynnwys rhaglen addysg i wella sgiliau cyfathrebu meddygon teulu.
"Rydym yn falch o weld cydnabyddiaeth o hyn yn yr adroddiad."