TGAU: Arholwyr yn ailraddio

  • Cyhoeddwyd
ArholiadFfynhonnell y llun, PA

Bydd staff bwrdd arholi cyd-bwyllgor addysg Cymru (CBAC) yn gweithio drwy'r penwythnos ar ailraddio papurau arholiad TGAU Saesneg yng Nghymru.

Dywed Llywodraeth Cymru eu bod yn disgwyl i'r gwaith gael ei gwblhau erbyn dydd Mawrth.

Yr wythnos diwethaf fe wnaeth Gweinidog Addysg Cymru Leighton Andrews gyhoeddi adroddiad oedd yn dweud fod y modd cafodd y graddau eu penderfynu yn annheg.

Bu cwymp yn nifer y disgyblion lwyddodd i ennill A*-C TGAU Saesneg yng Nghymru o 61.3% yn 2011 i 57.4% eleni.

Bydd yr ailraddio yn canolbwyntio ar y ffin rhwng graddau C a D.

Mae'r penderfyniad i ailraddio wedi arwain i ffrae gyhoeddus rhwng Mr Andrews a Michael Gove, Ysgrifennydd Addysg San Steffan

'Anghyfrifol'

Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Michael Gove bod penderfyniad Mr Andrews yn "anghyfrifol"

Dywedodd Mr Gove bod Mr Andrews yn "anghyfrifol" am orchymyn CBAC i ailraddio papurau myfyrwyr o Gymru.

Rhybuddiodd hefyd y gallai cyflogwyr yn Lloegr benderfynu yn y dyfodol na fyddai pasio arholiad yng Nghymru yn cyfateb i ganlyniad tebyg yn Lloegr.

Llywodraeth Cymru sy'n rheoleiddio arholiadau yng Nghymru, ond yn Lloegr Ofqual sy'n gwneud y gwaith ac maen nhw wedi dweud nad ydyn nhw'n credu bod angen ailraddio papurau.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn disgwyl i gannoedd o ddisgyblion gael graddau gwell o ganlyniad i'r ailraddio.

Fe wnaeth 34,000 o ddisgyblion yng Nghymru sefyll arholiad Saesneg CBAC, ond hefyd 84,000 o ddisgyblion yn Lloegr.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol